Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



CLYDOG ( fl. 500? ), sant a merthyr ; mab ydoedd i Clydwyn ap Brychan a theyrnasai dros Ewias (heddiw, gan mwyaf, yn swydd Henffordd ). Ni wyddys dim amdano ar wahân i'r hyn a ddywedir yn ‘ Llyfr Llandaf .’ Yn ôl yr hanes yno yr oedd yn dywysog a oedd yn arfer duwioldeb, yn caru heddwch a chyflawnder, ond a gafodd ei ladd, pan oedd yn hela ar lan afon Mynwy , gan un o'i ddilynwyr a oedd yn eiddigus ohono. Yr oedd y llofrudd yn caru morwyn ifanc a ddywedasai na phriodai hi neb ond mab y brenin . Ceisiwyd fwy nag un waith, ond yn ofer, symud y corff o'r fan, a chan fod hyn yn awgrymu rhyw arfaeth uwchddaearol fe gladdwyd Clydog yn y man lle y'i lladdwyd. Dynodwyd ei fedd gan adeilad i weddïo ynddo, a daethpwyd i addoli'r tywysog megis sant ; yn ddiweddarach codwyd eglwys — Clodock y dyddiau hyn — a ddaeth yn ganolfan eglwysig Ewias . Rhoddwyd i'r sefydliad diroedd a ddaeth yn amser Ithel ap Morgan ( c. 750 ) yn eiddo esgobaeth Llandaf . Ni wyddys am gyflwyno un eglwys arall i'r sant hwn. Cedwid ei ŵyl mabsant 3 Tachwedd .

Llyfryddiaeth:

  • The Lives of the British Saints , ii, 154-5.

Awdur:

Syr John Edward Lloyd, D.Litt., F.B.A., F.S.A. (1861-1947), Bangor