Ceir manylion gweddol lawn am yrfa Richard Clough yn y D.N.B. ; yma pwysleisir y cysylltiadau â Chymru yn unig. Aeth yn fachgen i ganu yng nghôr yr eglwys gadeiriol yng Nghaer , ac oddi yno i Lundain ; yr oedd eto'n ieuanc pan aeth ar bererindod i Balesteina a chael ei greu yn ‘ Knight of the Holy Sepulchre ’ — dyna sy'n cyfrif am y ‘Syr’ a geir o flaen ei enw weithiau. Aeth i wasanaeth Syr Thomas Gresham yn Llundain ; yn 1552 fe'i ceir wedi ymsefydlu yn Antwerp fel cynrychiolydd tramor i Gresham . Ysgrifennai'n fynych at ei feistr ac at William Phayre (y mae'r llythyrau gwreiddiol yn y Public Record Office , Llundain ; gw. e.e. Cal. S.P. For. , 1566-8 ); Clough a awgrymodd i Gresham y priodoldeb o sefydlu ‘ Exchange ’ yn Llundain at wasanaeth marsiandwyr , ar batrwm y ‘ Bourse ’ yn Antwerp . Ym mis Chwefror 1563-4 fe'i ceir yn ceisio trwy Cecil ( Arglwydd Burghley ) les ar diroedd y Goron yng Nghymru a Lloegr , a'r flwyddyn ddilynol caniatâwyd ei gais — yn siroedd Caernarfon , Fflint , Nottingham , a Buckingham yr oedd y tiroedd. Dychwelodd i Gymru ym mis Ebrill 1567 a phriodi Catherin o'r Berain , yn ail ŵr iddi hi. (Buasai yntau'n briod cyn hynny — â Catherine Muldert , Antwerp ; mab iddynt oedd Richard Clough , cyndad y Cloughiaid y ceir erthygl arnynt; gw. hefyd J. E. Griffith , Pedigrees , 329; am hanes tair priodas Catherin o'r Berain gw. yr erthygl ar y wraig honno.) O'r briodas â Catherin o'r Berain bu dwy ferch, ac ohonynt hwy y disgynnodd Hester Lynch Salusbury ( Mrs. Thrale , a Mrs. Piozzi ar ôl hynny) [q.v.] a Syr Robert Salusbury (bu f. 1818 ) , barwnig Cotton Hall , sir Ddinbych , a Llanwern , sir Fynwy . Tuag adeg ei briodas dechreuodd Clough adeiladu dau dŷ — Bachygraig a Plas Clough , y ddau heb fod ymhell o dref Ddinbych ; ymddengys fod ganddo dŷ yn y dref hefyd. Ym mis Mai yr oedd yn ôl yn Antwerp , a'i wraig gydag ef; ychydig yn ddiweddarach buont yn Sbaen ac yn Hamburg . Bu Clough f. yn Hamburg rywbryd rhwng 11 Mawrth a 19 Gorffennaf 1570 ; claddwyd ef yn y dref honno, eithr dygwyd ei galon yn ôl i Gymru i'w chladdu yn yr Eglwys Wen , Dinbych . Arfaethai Clough wneuthur llawer o bethau er lles ei wlad enedigol; e.e. amcanai ddyfnhau gwely afon Clwyd er mwyn cael llongau bychain i ddyfod cyn belled â Rhuddlan . Yr oedd yn adnabod yr Is-Ellmynnwr Abraham Ortelius , ysgolhaig a mapiwr enwog, ac efe a barodd ddyfod ag Ortelius a Humphrey Lhuyd , Dinbych , i gysylltiad â'i gilydd. Tybir mai tua 40 oed ydoedd pan fu farw. Canwyd marwnadau iddo gan Siôn Tudur , Simwnt Fychan , a Wiliam Cynwal ; heblaw'r farwnad canodd Cynwal gywyddau iddo ef (a'i wraig Catherin ) gyda'r teitlau hyn — ‘ Kowydd i yrru y gwalch i annerch mr Ric. Klwch a meistres Catrin penn oeddynt yn Anwarp ’ a ‘ Kowydd i yrru y llong i nol mr Ric Klwch a meistres Katrin adref o ddengmark .’ Mewn un cywydd marwnad geilw Cynwal ef ‘marchog o vedd Krist.’
Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth