Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



CLARK (TEULU), argraffwyr a chyhoeddwyr yn sir Fynwy , etc. Ymsefydlodd JAMES CLARK ( 1781 - 1859 ), yn Chepstow yn 1823 ; g. ef 22 Ionawr 1781 yng Nghaerloyw . Bu'n brentis yn swyddfa y Gloucester Journal ac wedyn yn gweithio yn Llundain a Portsmouth . Priododd Mary Baker (bu f. 1875 , yn 100 oed) tua'r adeg y dychwelodd i Gaerloyw (sef yn 1808 ). Cyn ymsefydlu yn Chepstow (yn 1823 ) bu'n byw yn Gosport , Hampshire , a Trowbridge , Wiltshire . Cymerth ei fab, WILLIAM EDWARD , yn bartner â ffyrm Clark and Son a ddechreuodd gyhoeddi , ar 23 Mehefin 1855 , y Chepstow Weekly Advertiser , a barhaodd hyd 1916 . Dygwyd y busnes ymlaen gan William Edward New Clark ac EMMELINE CLARK , mab a merch William Edward Clark , ond fe'i gwerthwyd yn 1903 i Enoch Williams .

Bu James Clark f. 12 Mehefin 1859 .

Bythefnos wedi dechrau cyhoeddi y Chepstow Weekly Advertiser cychwynnwyd newyddiadur arall yn sir Fynwy , sef The Illustrated Usk Observer , gan JAMES CLARK ( 1818 - 1913 ), mab arall i James Clark . Dechreuasai J. H. Clark fusnes yn Brynbuga , 1 Ionawr 1834 , gyda'i frawd hŷn, GEORGE CLARK (a fu f., fodd bynnag, yn Chepstow , 12 Ebrill 1835 ). Dysgasai'r ddau frawd eu crefft yn swyddfa eu tad. Ganed J. H. Clark 23 Ionawr 1818 yn Caerloyw a bu f. 16 Chwefror 1913 , yn 95 oed. Yn ystod ei yrfa hir fel argraffydd a chyhoeddwr ysgrifennodd a chyhoeddodd lu o lyfrynnau a llyfrau — e.e. Usk and its Neighbourhood , 1856 ; Handbook to Monmouthshire and South Wales , 1861 ; Sketches of Monmouthshire , 1868 ; History of Monmouthshire , 1869 ; Usk, Past and Present , 1893 , etc.; am ragor o fanylion gw. Ifano Jones , History of Printing and Printers in Wales and Monmouthshire , a chasgliadau William Haines [q.v.] ar lyfryddiaeth sir Fynwy (yn Ll.G.C. ). Newidiodd y newyddiadur ei enw o bryd i bryd, gan barhau hyd 1907 . Priododd J. H. Clark , 15 Mawrth 1838 , Sophia (bu f. 1901 ), ferch hynaf William Howell , Chepstow . Bu ganddo siop lyfrau yng Nghaerdydd am gyfnod. Yn Awst 1875 dechreuodd gyhoeddi misolyn, The Usk Gleaner and Monmouthshire Record , a barhaodd hyd ddiwedd 1878 . Dygwyd y busnes argraffu ym Mrynbuga ymlaen gan ei ferch, ELIZA CLARK . Aeth WILLIAM CLARK , mab hynaf J. H. Clark , o Frynbuga i Aberhonddu yn 1866 i gychwyn The Brecon County Times .

Llyfryddiaeth:

  • At y ffynonellau a enwyd eisoes ychwaneger James Henry Clark , Reminiscences of Monmouthshire , Brynbuga, 1908 , 1908 .

Awdur:

Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth