CHARLES
,
DAVID
,
II
(
1803
-
1880
),
gweinidog ac emynydd
;
g. yng
Nghaerfyrddin
, mab
David
Charles
I
. Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg y dref a'r
Coleg Presbyteraidd
, ac aeth i weithio at ei dad. Yn ddiweddarach dechreuodd
bregethu
, fel yntau, yn ŵr canol oed, ac ordeiniwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth gyda'r
Methodistiaid Calfinaidd
yn
1851
. Bu'n flaenllaw yn ei gyfundeb; llanwodd gadair y
Gymdeithasfa yn y Deau
yn
1853
, a bu'n gyd-ysgrifennydd
Coleg Trefecca
o
1842
i
1852
. Yn
1823
cyhoeddodd fisolyn bychan yn dwyn y teitl
Yr Addysgydd
, ac ef oedd prif
olygydd
Casgliad o Hymnau Hen a Newydd at wasanaeth y Trefnyddion Calfinaidd
,
1841
. Cyfansoddodd, neu gyfieithu, llawer o emynau adnabyddus. Priododd (1),
Sarah
, ferch
Thomas Rice
Charles
— bu hi f. yn
1833
, a (2),
Ann
, merch
Richard
Roberts
,
Lerpwl
. Bu iddynt un mab,
David Roberts
Charles
. Bu f.
10 Mai 1880
yn nhŷ ei fab, a'i gladdu yn
Ulverston
,
Lancashire
.
Llyfryddiaeth:
-
Y Traethodydd
,
1893, 1936
;
-
J. Thickens
,
Emynau a’u Hawduriaid
. [1945.]
.
Awdur:
Thomas Iorwerth Ellis, M.A., (1899-1970), Aberystwyth