CHARLES
,
DAVID
,
I
(
1762
-
1834
),
gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, emynydd
;
g.
11 Hydref 1762
ym
Mhant-dwfn
,
Llanfihangel Abercywyn
,
sir Gaerfyrddin
, mab
Rees
a
Jael
Charles
. Yr oedd yn frawd i
Thomas
Charles
[q.v.]
. Prentisiwyd ef yn
driniwr llin
a
gwneuthurwr rhaffau
yng
Nghaerfyrddin
, a bu am dymor yn ymberffeithio'i grefft ym
Mryste
. Dysgodd
Night Thoughts
Edward
Young
ar ei gof yn gynnar, ac argyhoeddwyd ef trwy ddarllen pregethau
Ralph
Erskine
. Dychwelodd i
Gaerfyrddin
i ddilyn ei alwedigaeth, a phriododd
Sarah
, merch
Samuel Levi
Phillips
[q.v.]
,
bancer
o
Iddew Cristnogol
,
Hwlffordd
. Ymunodd â chynulleidfa'r
Methodistiaid
yn
Heol-y-dŵr
, ac etholwyd ef yn
flaenor
yno. Daeth yn arweinydd yn fuan ymhlith
Methodistiaid y De
, a chymerodd ran flaenllaw yn
sefydlu'r genhadaeth gartref
a llunio'r
Gyffes Ffydd.
Dechreuodd bregethu yn
1808
, a gweinyddai'r ordinhad o fedydd cyn ei ordeinio yn
1811
yn ordeiniad cyntaf y
Methodistiaid
yn
Llandeilo Fawr
. Yr oedd yn un o wrthwynebwyr pennaf llywodraeth
Nathaniel
Rowland
[q.v.]
yn y
corff Methodistaidd
. Cafodd
ergyd o'r parlys
yn
1828
, a bu'n ddiymadferth weddill ei oes. Bu f.
2 Medi 1834
, a'i gladdu yn
Llangynnor
.
Ystyrid ef yn
feddyliwr gloyw
ac yn
ddiwinydd craff
. Dengys ei bregethau cyhoeddedig fod
ganddo arddull epigramaidd a gwead clos i'w feddyliau. Cyhoeddodd
Hugh
Hughes
[q.v.]
, ei fab-yng-nghyfraith,
Deg a Thri Ugain o Bregethau, ynghyd ag Ychydig Emynau
(
Caerlleon
) yn
1840
; cyfrol o
Sermons
, etc. (
London
), yn
1846
; a
Pregethau
, etc. (
Wrecsam
) drachefn yn
1860
. Ymddangosodd
Detholion o sgrifeniadau
(
Wrecsam
) yn
1879
. Cyhoeddwyd ei emynau yng nghasgliadau bychain y cyfnod, megis
Anthem y Saint … gan Evan Dafydd
(
Caerfyrddin
),
1807
;
Hymnau ar Amrywiol Achosion
(
Caerfyrddin
),
1823
, etc. Y mae ei safle fel
emynydd
yn sicr, a cheir ‘
Mae ffrydiau ‘ngorfoledd yn tarddu
,’ ‘
Rhagluniaeth fawr y nef
,’ etc., yn y prif gasgliadau
Cymreig
.
Llyfryddiaeth:
-
H. Hughes
,
Sermons by the late Rev. David Charles …
translated from the Welsh, with a memoir
, Llundain,
1846
,
1846
;
-
Y Drysorfa
,
1847, 129, 161, 193
;
-
D. E. Jenkins
,
Life of Thomas Charles
, 1908
;
-
Y Traethodydd
,
1934, 210-7
;
-
J. Thickens
,
Emynau a’u Hawduriaid
. [1945.]
, 23-7.
Awdur:
Y Parch. Gomer Morgan Roberts, M.A., (1904-93), Pont-rhyd-y-fen /
Llandudoch / Llandybïe