CHALONER
,
THOMAS
(bu f.
1598
),
Dinbych
a
Chaer
,
Ulster King of Arms
yn ôl rhai awdurdodau.
Rhoddir rhai manylion am yr
herald
amryddawn hwn — yr oedd hefyd yn
baentiwr
,
hynafiaethydd
,
bardd
, ac
actor
— gan
W. J.
Hemp
mewn erthygl (‘
Two Welsh Heraldic Pedigrees, with Notes on Thomas Chaloner, Ulster King of Arms
’) yn
Y Cymmrodor
, xl. Pedwerydd mab ydoedd i
Robert
Chaloner
,
Dinbych
, a'i wraig
Dowce
, ferch
Richard
Mathew
,
Lleweni Green
, gerllaw
Dinbych
, a'i wraig
Jane
, ferch
David
Myddelton
,
Gwaynynog
. Bu
Thomas
Chaloner
yn gwasnaethu'r
College of Heralds
am rai blynyddoedd o dan y teitl ‘
Deputy to the Office of Arms
.’ Dywedir iddo gael ei ddewis yn
Ulster King of Arms
y diwrnod y bu farw, sef
14 Mai 1598
, eithr nid ydyw
Anthony R.
Wagner
(gw. isod) yn credu i hyn ddigwydd eithr yn hytrach i
Chaloner
gael ei gyfrif yn
ddirprwy-herodr
yn
sir Gaer
. Priododd,
8 Tachwedd 1584
,
Elizabeth
, merch
Thomas
Alcock
,
Caer
. Mab iddynt oedd
JACOB
CHALONER
(
1586
-
1631
), a oedd yntau'n
herodr
ac a fu f. yn
Llundain
25 Tachwedd 1631
. Cymerasai
Thomas
Chaloner
yn brentis,
10 Ionawr 1587
,
Randle
Holme
I
, sef y cyntaf o bedair cenhedlaeth o'r un enw a ddaeth yn enwog fel
achyddion
(am y teulu nodedig hwn gw. cyfrol
1892
Jnl. of the Chester Arch. and Hist. Soc.
). Priododd
Randle
Holme
I
weddw ei feistr
a chymryd ei lys-fab,
JACOB
CHALONER
, yn
brentis
.
Gor-nai i
Thomas
Chaloner
oedd
ROBERT
CHALONER
(
1612
-
1675
),
Lloran
,
sir Ddinbych
, a
Roundway
,
Wiltshire
, a ddaeth yn
Bluemantle Pursuivant
yn
1660
a
Lancaster Herald
yn
1665
.
Claddwyd
Thomas
Chaloner
yn eglwys
S. Michael
,
Caer
.
Llyfryddiaeth:
-
At y cyfeiriadau a roddir yn erthygl
W. J. Hemp
ychwaneger
Anthony R. Wagner
,
A Catalogue of English Mediaeval Rolls of
Arms
, 1950
(London,
1950
).
Awdur:
Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952),
Aberystwyth