Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



CECIL (TEULU), Alltyrynys ( swydd Henffordd ), Burghley ( swydd Northampton ), a Hatfield ( swydd Hertford ). Y mae'r honiad bod y teulu Seisnig enwog hwn o dras Cymreig yn gofyn am beth eglurhad. ‘ Sitsyllt ’ ydyw'r enw cyndadol a geir yn yr achau, ac y mae hwn, y mae'n debyg, yn tarddu o'r enw Cymraeg ‘Seisyll’; yng nghwrs y 15fed g. a'r 16eg. fe'i ceir yn datblygu i fod yn ‘Sissild,’ ‘Cyssel,’ ‘Cecild,’ a ‘Cecil.’ Eithr fel un o ddilynwyr y Norman Robert Fitz Hamon [q.v.] , pan oedd hwnnw yn goresgyn arglwyddiaeth Morgannwg yn yr 11eg g. , y sonia hanes am gyndad y teulu, ROBERT SITSYLLT ; trwy briodas ag aelod o deulu Cymreig a gollodd ei dir ar law'r Normaniai d y cafodd Robert Sitsyllt hen gartref y teulu, sef Alltyrynys (yn swydd Henffordd y mae'n awr, er bod ystadau'r teulu'n ymestyn i sir Fynwy ). O hyn ymlaen ceir hanes am y Sitsylltiaid yn ymbriodi ag aelodau teuluoedd Normanaidd ac yn aml yn ymladd yn erbyn y Cymry . Tua diwedd y 15fed g. , fodd bynnag, priododd RICHARD CECIL , y cyntaf i ddefnyddio'r ffurf hwn ar y cyfenw, aelod o deulu Cymreig Fychaniaid ( Vaughan ) Tyleglas , Brycheiniog . Symudodd DAVID CECIL (bu f. 1541 ), un o feibion Richard Cecil , gyda rhai o'i garennydd yn swydd Frycheiniog , i swydd Lincoln . Yno bu'n gwasnaethu'r brenin Harri VII , daeth yn un o weision siamber y brenin (‘ yeoman of the chamber ’), cafodd stiwardiaeth amryw o faenorau'r goron , a bu'n siryf swydd Northampton yn 1529-1530 . Priododd ei fab ef, RICHARD CECIL (bu f. 1552 ), Burghley , ag aelod o un o'r teuluoedd o Frycheiniog a ymsefydlasai yn swydd Lincoln yn oes ei daid; bu'n facwy (‘ page ’) yn y ‘ Field of the Cloth of Gold ’ ( 1520 ), ychwanegodd at gyfoeth y teulu trwy gael tiroedd ac eiddo pan oeddid yn diddymu'r mynachtai , a daeth yn dad i —

WILLIAM CECIL ( 1520 - 1598 ), barwn Burghley ( 1571 ), Ysgrifennydd y Wladwriaeth (1550-3 a 1558-1572), ac Arglwydd Drysorydd (1572-98) . Ceir digon o brofion o ddiddordeb parhaol yr arglwydd Burghley yn ei gysylltiadau Cymreig . Er enghraifft, bu'n ddiwyd gyda'r gwaith o sefydlu ei ach Gymreig; trefnodd i'w gâr Thomas Parry [q.v.] , gwr o Frycheiniog , gael bod yn un o swyddogion ty 'r dywysoges Elisabeth yn 1560 — daeth Parry yn brif swyddog (‘Comptroller’) y dywysoges ; rhoes arian i helpu'r ymchwil am gopr yn ynys Môn ; cofir hefyd am ei gysylltiad â Morris Clynnog [q.v.] , a ysgrifennodd lythyr Cymraeg ato o Rufain ( Mai 1567 ) yn ei hysbysu fod y frenhines Elisabeth ar fin cael ei hesgymuno. Yr oedd mab hynaf Burghley , sef THOMAS CECIL ( 1542 - 1623 ), iarll Exeter , yr un mor awyddus i sefydlu ei ach Gymreig ac yr oedd yn flin ganddo ddarfod newid y dull o sillebu cyfenw'r teulu a thrwy hynny beri dryswch. Eithr fel arall y teimlai ail fab Burghley , sef ROBERT CECIL ( 1563? - 1612 ), iarll Salisbury , ac Ysgrifennydd y Wladwriaeth yn nheyrnasiad Iago I ; pan geisiodd Cymro a ysgrifennodd ato brofi bod ach y Ceciliaid i'w olrhain trwy'r Fychaniaid hyd at dywysogion Cymru , mynegodd ef yn bur drahaus nad oedd ganddo ddiddordeb yn y teganau gweigion hyn (‘in these vain toys’) ac na fynnai glywed y fath ffwlbri ('such absurdities’).

Yr oedd aelodau o'r prif deulu yn Alltyrynys yn dal yn amlwg mewn llywodraeth leol yn sir Fynwy yn 1592 ac yn gohebu â'r is-deulu enwocach hyd at 1598 , pryd y daeth y llinach i ben ar yr ochr wrywaidd. Ofer fu cais William Cecil , yr olaf o'r enw yn Alltyrynys , i ddiogelu'r enw trwy greu Syr Robert Cecil (wedi hynny iarll Salisbury ) yn aer y stad.

Llyfryddiaeth:

  • Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion , 1901-2, 114-9 ;
  • Bradney , A History of Monmouthshire , i, 244-5; ii, 14;
  • Acts of the Privy Council . Record Commission, 1834–7; Record Publications , n.s., xxiii, 260;
  • Adroddiadau'r ‘Historical Manuscripts Commission,’ , Adroddiadau'r ‘Historical Manuscripts Commission,’ >, i, 67, 72-3; v, 316, 454; vi, 170, 195, 250, 366; vii, 82-3, 175, 232, 272-3, 447, 454, 553; viii, 287-8; xii, 667; xiv, 75; xvii, 595;
  • M. A. S. Hume , The Great Lord Burghley, a study in Elizabethan Statecraft , Llundain, 1898 , 1898, pen. i ;
  • Walter Davies , General view of the agriculture and domestic economy of North Wales containing the counties of Anglesey, Caernarvon, Denbigh, Flint, Meirionydd, Montgomery. Drawn up and published by order of the Board of Agriculture and Internal Improvement , Llundain, 1810 , 1811, 485-6 ;
  • J. Bridges , The History and Antiquities of Northamptonshire , Llundain, 1791 , (1791) ii, 588-90;
  • Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru , iii, 11-14;
  • Llyfr Baglan, or the Book of Baglan. Compiled between the years 1600 and 1607 by John Williams. Transcribed from the original manuscript preserved in the Public Library at Cardiff… , Llundain, 1910 (gol. Bradney ), 1910 , 275-6.

Awdur:

Athro Emeritus Arthur Herbert Dodd, M.A., (1891-1975), Bangor

Atodiadau a chywiriadau:

CECIL , (TEULU; Bywg. , 64b), darllener swydd Northampton am Lincoln .