CARR, HENRY LASCELLES (1841 - 1902), newyddiadurwr a pherchennog newyddiaduron

Enw: Henry Lascelles Carr
Dyddiad geni: 1841
Dyddiad marw: 1902
Rhiant: James B. Carr
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: newyddiadurwr a pherchennog newyddiaduron
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Owen Picton Davies

Ganwyd yn Knottingley, sir Efrog, yn fab i'r Parch. James B. Carr a fwriodd dymor yn y Barri yn weinidog gyda'r Wesleaid. Addysgwyd y bachgen yng ngholeg diwinyddol S. Aidan, Birkenhead, ond ar ddiwedd ei gwrs yno penderfynodd adael y pulpud am y Wasg.

Wedi treulio peth amser yn swyddfa'r Daily Post yn Lerpwl aeth yn is-olygydd ar y Western Mail, Caerdydd, pan sefydlwyd y papur hwnnw yn 1869; ar ôl hynny bu'n rheolwr, golygydd, a chydberchennog hyd 1901, pryd yr ymddiswyddodd oherwydd afiechyd.

Bu'n amlwg mewn gwaith cyhoeddus yng Nghaerdydd, yn aelod o gyngor y dref ac yn ynad heddwch. Ysgrifennodd nifer o lyfrau, yn eu mysg un ar ddeddf cau tafarnau Cymru ar y Sul. Bu farw 5 Hydref 1902.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.