CARADOG FYNACH
(bu f.
1124
),
meudwy
.
Ganed ef o deulu da ym
Mrycheiniog
, a chafodd addysg leyg. Oherwydd ei gyraeddiadau, a gynhwysai
ganu'r delyn
, a'i dymer gymdeithasgar, cafodd fynd i wasanaethu
Rhys ap Tewdwr
(bu f.
1093
)
. Dringodd yn uchel yn ffafr y
tywysog
hwnnw, ond bu mor anffortunus â cholli dau filgi gwerthfawr y rhoddwyd eu gofal arno, colled a gostiodd iddo golli ffafr
Rhys
. Oblegid bygythion cas ei feistr gorfu iddo adael y llys a phenderfynu mabwysiadu'r bywyd crefyddol. Cafodd loches ar y cyntaf yn
Llandaf
gan yr
esgob
Herwald
a'i derbyniodd yn
fynach
. Cyn hir fe'i denwyd gan y bywyd meudwyaidd a gwnaeth iddo'i hun gartref fel
mynach
yn eglwys ddiffeithiedig
Llangenydd
yng
Ngŵyr
. Fe symudodd wedi hynny i
Dyddewi
lle y'i gwnaethpwyd yn
offeiriad
. Cawn ef yn nesaf ym
môr-ynys Barri
, yng
ngogledd Penfro
, eithr yr oedd yma'n rhy agored i ymosodiadau'r
Sgandinafiaid
, a rhoes
esgob Tyddewi
iddo gell meudwy yn eglwys
Sant
Ismael
yn
Rhos
, a enwir heddiw wrth yr enw
Haroldston S. Issels
. Yno y treuliodd weddill ei oes, er dywedyd iddo fynd ar daith i
Enlli
, hynny yw os ef ydyw'r meistr
Caradog
, gŵr dysgedig iawn a ddaeth i'r ynys tua'r adeg hon i weled
Elgar feudwy
. Yn gynnar yn nheyrnasiad
Harri
I
bu newid ym mhoblogaeth rhan o
Benfro
; daeth ymfudwyr
Fflemingaidd
i gymryd lle
Cymry
Rhos
, ac ni bu cyfathrach
Caradog
â'i gymydog newydd,
Tancard
o
Hwlffordd
, yn rhyw gysurus iawn. Bu f. yn
1124 ar y Pasg bychan
, ac er i
Tancard
geisio cadw'r corff fe'i cludwyd i
Dyddewi
a'i gladdu yn y groes ogleddol. Am gyfnod maith fe fu croes a chapel ar draeth
Newgale
yn dynodi'r fan lle y bu aros a gorffwys ar y siwrnai. Fe ysgrifennodd
Gerallt Gymro
hanes
Caradog
; nid ydyw ar gael mwyach er, efallai, y ceir ei sylwedd yn
Nova Legenda Anglie
(arg.
1901
), i, 174-6. Aeth
Gerallt
â'r hanes i
Rufain
a'i ddarllen gerbron
Innocent III
, gan amcanu cael canoneiddio ei gydwladwr; fe lwyddodd i raddau yn ei amcan gan iddo gael gan y
pab
lythyr yn dewis abadau y
Tŷ-gwyn-ar-Daf
,
Llandudoch
, ac
Ystrad Fflur
yn gomisiwn i edrych i'r achos (
8 Mai 1200
). Nid oedd penaethiaid y
Tŷ-gwyn
a
Llandudoch
yn rhyw dueddol iawn i wneuthur dim a wnâi gynorthwyo eu gwrthwynebwr yn yr ymgyrch am
sedd Dewi
, ac o'r herwydd nid aethpwyd â'r peth gam ymhellach.
Y mae
eglwys Lawrenny
ar y
Milford Haven
wedi ei chyflwyno i
Garadog
, ac yr oedd gerllaw
Haroldston
ffynnon a gysegrasid iddo.
Llyfryddiaeth:
-
The Lives of the British Saints
, ii, 75-8;
-
Liber Landavensis. The
Text of the Book of Llan Dâv
) , 1893
, 2, 279.
Awdur:
Syr John Edward Lloyd, D.Litt., F.B.A., F.S.A. (1861-1947), Bangor