CARADOG ab IESTYN
(
fl.
1130
),
sylfaenydd teulu ‘Avene’ ym Morgannwg
,
a mab
Iestyn ap Gwrgant
. Gŵyr haneswyr amdano am fod dau gyfeiriad ato yn ‘
Llyfr Llandaf
.’ Yn y cyntaf enwir ef ymysg y gwŷr lleyg mewn siarter sydd yn tystio i
Caradog ap Gruffydd
(bu f.
1081
)
roddi tir yn
Edlygion
i'r
esgob
Herwald
; yn yr ail disgrifir ef yn
bennaeth a chanddo lu rhyfel
y gwnaeth ef iawn i'r unrhyw
esgob
oblegid drwgweithredoedd y llu hwn gan roddi iddo faenor yn nyffryn
afon Elai
. Ymddengys, felly, i
Iestyn
, ar ôl marw
Caradog
, esgyn o ddinodedd a dyfod yn
arglwydd Morgannwg
ac mai efe ydoedd y
tywysog
a fwriwyd allan gan y
Normaniaid
pan ymosodasant ar yr ardal tua'r flwyddyn
1090
. Rhaid, fodd bynnag, wrthod derbyn adroddiad manwl y gorchfygu a geir gan
David
Powell
yn ei
Historie
(
1584
), gan na cheir tystiolaeth yn unman arall yn ei ategu. Nid oes ond un cyfeiriad cyfoes at
Garadog
; gyda'i frodyr
Gruffydd
a
Goronwy
bu iddo ran a chyfran yn
1127
mewn gweithred drahaus na wyddys ddim yn sicr am yr amgylchiadau y cyflawnwyd hi ynddynt. Eithr y mae'n gwbl sicr iddo, ar ôl i lywodraeth
Iestyn
gwympo, dderbyn gan
Robert
Fitz Hamon
y wlad rhwng
Nedd
ac
Afan
(ac, efallai, fwy na hynny) fel daliad isradd, ac i'w olynwyr gadw'r daliad hwn am amryw genedlaethau. Trwy ei wraig,
Gwladus
, ferch
Gruffydd ap Rhys
, bu iddo bedwar mab —
Morgan
,
Maredudd
,
Owain
, a
Cadwallon
; dilynwyd ef yn
Aberafan
gan
Morgan
.
Llyfryddiaeth:
-
A History of Wales
, 402, 440, 504, 572.
Awdur:
Syr John Edward Lloyd, D.Litt., F.B.A., F.S.A. (1861-1947), Bangor