Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



CAIN , santes a gwyryf ( fl. diwedd y 5ed g. a dechrau'r 6ed ). Yn ôl y ‘ De Situ Brecheniauc ’ ( Wade-Evans , Vitae Sanctorum Britanniae et Genealogiae , 313-5) a'r ‘ Cognacio Brychan ’ (op. cit., 315-8), un o ferched bucheddol Brychan Brycheiniog oedd Cain . Ceir y traddodiad amdani ym ‘muchedd’ y santes Gain , crynodeb a gyfansoddwyd tua chanol y bedwaredd g. ar ddeg gan John o Teignmouth allan o ryw lawysgrif anhysbys. Ni chwenychodd Cain y bywyd priodasol, ac oherwydd hynny rhoddwyd iddi yr enw ‘ Keynwiri ’ (‘ Cain Wyryf ’). Ymadawodd â'i bro enedigol, a gwnaeth ei chartref mewn lle a adwaenir heddiw fel Keynsham yng Ngwlad yr Haf ; ac yno bu fyw bywyd meudwy . Wedi llawer o flynyddoedd, dychwelodd i Ddeheudir Cymru gan sefydlu mynachlog mewn lle nad oes ddim sicrwydd amdano ond y dywedir mai Llangeinwr yn sir Forgannwg yw. Dywed y ‘fuchedd’ mai Cadog Sant a'i claddodd hi. Y santes Gain yw nawddsant Llangeinwr , a chedwir ei henw ar gof yn Llangain a Chapel Cain Wyry (plwyf Tal-y-llychau ) yn sir Gaerfyrddin , yn Llangeinwen ym Môn , ac, efallai, ym Machen yn sir Fynwy . Ceir eglwysi wedi eu henwi arni hefyd yn swydd Henffordd , Gwlad yr Haf , a Chernyw . Fel rheol dethlir ei gŵyl ar 8 Hydref .

Llyfryddiaeth:

  • The Lives of the British Saints , ii, 52-5;
  • Horstman (gol.), Nova legenda Anglie as collected by John of Tynemouth, John Capgrave, and others, and first printed, with new lives, now re-edited with fresh material from MS and printed sources by C. Horstman , 1901 , ii, 102-4;
  • Acta Sanctorum Bollandiana , 1643 ff , lii, 275-7;
  • G. H. Doble , Britannica , 1930 , 34-48;
  • Wade-Evans , Vitae Sanctorum Britanniae et Genealogiae , Caerdydd, 1944 , 313-8.

Awdur:

Hywel David Emanuel, M.A., (1921-70), Aberystwyth