Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



CADWGAN (bu f. 1241 ), esgob Bangor , Cafodd Cadwgan ei esgobaeth pan fu farw Robert yn 1212 . Y pryd hwn yr oedd Llywelyn ap Iorwerth yn ben llywodraethwr ar Ogledd Cymru ; trwy ei ddylanwad ef, y mae'n ddiamau, y cafodd Cadwgan yr esgobaeth. Ac ni bu i'r brenin John ychwaith, a oedd ar y pryd yn ceisio cael cymorth y Cymry yn erbyn ei farwniaid , roddi unrhyw rwystr ar ei ffordd. Ar 13 Mawrth caniatâwyd i'r cabidwl ethol abad y Tŷ-gwyn-ar-Daf , ar yr amod eu bod yn ceisio cydsyniad y brenin yn ffurfiol yn nes ymlaen. Ar 13 Ebrill rhoes John hysbysrwydd am yr etholiad i'r archesgob Langton a gofyn iddo gysegru. Ar ôl i Gadwgan wneuthur y broffes arferedig o ufudd-dod ar 28 Ebrill cydsyniodd yr archesgob a chymerth y gwasanaeth cysegru le yn Staines , 21 Mehefin .

Ni wybuasid ddim am ddechreuad yr esgob newydd oni bai am y darlun a dynnwyd ohono gan Gerallt Gymro yn ei Speculum Ecclesiae — darlun nad oes dim yn eisiau ynddo ond yr enw. Fe'i tynnwyd gyda rhyfyg diofn a dylid bod yn ofalus iawn rhag ei dderbyn yn ei grynswth. Serch hynny, gellir dywedyd a chredu bod Cadwgan yn fab i offeiriad o Wyddel a mam a oedd yn Gymraes , iddo dderbyn addysg glerigol dda, a dyfod yn fynach yn urdd y Sistersiaid . Daeth yn ben ar abaty Ystrad Fflur ac heb fod yn hir iawn wedi hynny yn bennaeth y Tŷ-gwyn-ar-Daf , mam-gartref tai Sistersaidd Cymru bron i gyd. Oherwydd iddo wasanaethu Llywelyn yn ddiwyd a diflino fe'i cafodd ei hun yn esgob o'r diwedd. Y mae popeth a wyddys am Gadwgan o ffynonellau eraill llai gwenwynig yn fwy ffariol iddo. Yn y flwyddyn 1234 , ar adeg prinder bwyd yng Ngogledd Cymru , trefnwyd i ddwyn llonaid llong o ŷd o Iwerddon er mwyn ei bobl. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, gyda chaniatâd y pab Grigor IX , ymddiswyddodd o'r esgobaeth a dychwelyd i fyw bywyd mynach syml yn abaty Dore , lle bu f. 11 Ebrill 1241 . Y mae peth tystiolaeth ei fod yn ŵr o ddysg ac yn awdur ; priodolir llyfr homilïau iddo.

Llyfryddiaeth:

  • A History of Wales , 688-9.

Awdur:

Syr John Edward Lloyd, D.Litt., F.B.A., F.S.A. (1861-1947), Bangor