CADWALADR
,
DAFYDD
(
1752
-
1834
),
cynghorwr gyda'r M.C.
,
ail fab
Cadwaladr
a
Chatrin
Dafydd
o
Erw Ddinmael
,
Llangwm
, teulu a
fu'n byw ar y tyddyn hwnnw am genedlaethau ac a oedd yn nodweddiadol o'r fro — yn
dilyn anterliwtiau a chymhorthau gwau
. Rhigymai
Dafydd
yntau pan yn llanc; ond ni ddysgodd ddarllen ond trwy graffu ar y llythrennau ar gefnau'r defaid a phigo ei ffordd wedyn drwy'r
Llyfr Gweddi.
Daeth yn
ddarllenwr
mawr, a chan fod ganddo gof hynod gryf, adroddai'r
Bardd Cwsc
a
Thaith y Pererin
yn y cymhorthau. Bu'n
hogyn ar amryw ffermydd
; tua
1771
aeth i
weini
at y
pregethwr
William
Evans
[q.v.]
yn y
Fedw Arian
(
y Bala
), a oedd eisoes wedi denu ei fryd at
Fethodistiaeth
. Tua
1777
priodwyd ef a
Judith
Humphreys
(neu ‘
Erasmus
’
; bu hi f.
tua 1795-6
), a chymerth dyddyn
Penrhiw
gan y
Parch.
Simon
Lloyd
[q.v.]
. O'i naw plentyn bu farw'r pedwar mab o'i flaen; dwy o'i ferched oedd
Elizabeth
Davis
, ‘
Balaclava
’ [q.v.]
, a
Bridget
(
1795?
-
1878
), a fu'n gweini gyda'r
Arglwyddes Llanofer
yn
Llundain
ac yn
Llanofer
, ac a gladdwyd yng ‘
Nghapel Ed
’ gerllaw
Llanofer
(
Cylch. Cymd. Hanes M.C.
,
Mehefin 1918
). Tua
1780
dechreuodd
bregethu
. Medrai'r
Beibl
ar dafod-leferydd; dywed ei ferch mai dan
wau
(‘yn gyflym iawn’) y gwnâi ei bregethau; a chan ei fod yn
gerddwr
diflino (hyd yn oed i
Lundain
), daeth yn
bregethwr
a hoffid led-led
Cymru
. Yr oedd yn gyfaill mawr i
Thomas
Charles
, a chanodd farwnadau i
Mr. a Mrs.
Charles
(
Ehediadau y Meddwl
,
Bala
,
1815
). Bu f.
9 Gorffennaf 1834
, a'i gladdu yn
Llanycil
. O'r
Ychydig Gofnodau ar … Dafydd Cadwaladr
, dienw, a gyhoeddwyd yn y
Bala
yn
1836
, y tardd bron bopeth a sgrifennwyd ar
Ddafydd
Cadwaladr
; ceir hefyd ambell gipolwg arno ef ac ar ei gefndir yn hunangofiant ei ferch
Elizabeth
.
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D.,
F.S.A., (1881-1969), Bangor