CADWALADR CESAIL (fl. 1620), bardd

Enw: Cadwaladr Cesail
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Norma Gwyneth Hughes

Rhydd un llawysgrif sail dros gredu ei fod yn byw yn y Gesail Gyfarch, plwyf Penmorfa, Sir Gaernarfon. Canodd hefyd gywydd marwnad i Elis Wyn o'r Gesail Gyfarch yn 1624. Mae ar gael 17 cywydd a naw englyn o'i waith, y rhan fwyaf yn gywyddau moliant a marwnad i wahanol aelodau o deuluoedd Gwydir, Glynllifon, Bodwrda, etc., un i Huw Gwyn o'r Berth Ddu pan oedd yn siryf (1609), a chanwyd rhai o'r englynion i Ifan Tew (Ieuengaf ?) pan aeth i geisio mynd yn ustus.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.