Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



CADWALADR (bu f. 664 ), tywysog , mab Cadwallon ap Cadfan [q.v.] . Pan fu f. tad Cadwaladr yn 633 syrthiodd Gwynedd i ddwylo anturiaethwr, Cadafael ap Cynfedw , a deyrnasodd hyd nes iddo orfod cilio'n ôl mewn gwaradwydd o frwydr Winwedfeld yn 654 . Daeth Cadwaladr i'w etifeddiaeth yr adeg hon, ond daeth pla mawr 664 a chollodd ei fywyd.

Er mai teyrnasiad di-ddigwyddiad a gafodd, daeth Cadwaladr yn ŵr pwysig yng ngolwg beirdd a barddas oesoedd diweddarach. Er enghraifft, ym ‘ Mhroffwydoliaeth Myrddin ,’ fel y'i ceir gan Sieffre o Fynwy , rhagfynegir y bydd i Gadwaladr alw ar Gynan i ddyfod yn ôl a gwneud cyfamod ag Alban ( Ysgotland ). Y mae'r gred neu'r broffwydoliaeth y dychwelai Cadwaladr i arwain cenedl y Cymry i fuddugoliaeth ar y Saeson yn beth cyffredin iawn yn y ‘cywyddau brud,’ y llu caniadau hynny mewn iaith aneglur braidd lle y celai'r beirdd eu cymhellion i ymladd dros annibyniaeth Cymru . Mynnai Harri VII ei fod yn disgyn o'r arwr poblogaidd hwn yn yr eilfed-radd-ar-hugain ( Wynne , 336), ac yr oedd arwydd draig goch Cadwaladr ar un o'r tair baner a gyflwynodd ef i eglwys S. Paul , Llundain , yn 1485 . Eithr fe geir Cadwaladr yn cael ei ddynodi mewn modd cwbl wahanol hefyd — Cadwaladr Fendigaid , nawddsant Llangadwaladr ym Môn , Llangadwaladr yn sir Ddinbych , a Bishton ( Llangadwaladr gynt) yn sir Fynwy . Yn fersiwn hynaf Achau'r Saint dywedir fod y sant yn fab Iago ap Beli ( Br. SS. , iv, 369), h.y. hen-ewythr y tywysog — y mae'n bosibl fod dau aelod o'r un teulu wedi cael eu cymysgu. Rhydd Sieffre o Fynwy ei fersiwn ef ei hun o weithrediadau Cadwaladr , gan orffen trwy ychwanegu at ei stori y manylion a rydd Beda am farwolaeth Cadwalla Wessex .

Llyfryddiaeth:

  • A History of Wales , 190, 230-1;
  • The Historia Regum Britanniae of Geoffrey of Monmouth. With contributions to the study of its place in early British history by Acton Griscom … Together with a literal translation of the Welsh manuscript No. LXI of Jesus College. Oxford, by Robert Ellis Jones, etc. , 1929 , 388; xii, 16;
  • The Lives of the British Saints , ii, 43-6.

Awdur:

Syr John Edward Lloyd, D.Litt., F.B.A., F.S.A. (1861-1947), Bangor