Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



CADWALLON (bu f. 633 ), tywysog ; mab Cadfan ydoedd, a dilynodd ei dad tua'r flwyddyn 625 . Yn herwydd y rhan y bu iddo ei chwarae yn hanes Lloegr , fel yr adroddir yr hanes gan Beda , nid oes fawr o ansicrwydd ynglŷn â'i waith a'i safle yn hanes y cyfnod. Efe oedd gwrthwynebydd Edwin o Deira ; gwnaeth ymdaith lwyddiannus y brenin hwn ar hyd glan môr Gogledd Cymru , gan orchfygu Môn , beri i Gadwallon fynd ar ffo a byw'n alltud, yn Iwerddon yn ôl pob tebyg, gyda gosgordd fechan a ffyddlon. Sonnir mewn hanes am un digwyddiad yn yr ymgyrch — sut na bu ond y dim iddo ddianc rhag cael ei gymryd yn garcharor yn 631 yn Ynys Lannog . Yn 632 daeth tro rhyfedd ar fyd; gyda chymorth Penda , brenin Mercia , aeth Cadwallon ar gyrch i Deira , gan guro Edwin a'i ladd ym mrwydr Heathfield (? Hatfield , gerllaw Doncaster ) — ‘ Meigen ’ yn ôl traddodiad y Cymry . Effaith y fuddugoliaeth hon oedd dodi Northumbria wrth ei draed, ac yr oedd mor drawiadol nes awgrymu bod yr awr wedi dyfod i ailsefydlu uchafiaeth y Prydeinwyr ar yr ynys. Eithr nid achubwyd mo'r cyfle, y cyfle olaf o'r fath, yn fuddiol. Ni bu i Gadwallon ddangos doniau gwladweinydd, eithr bodloni ar anrheithio'r wlad, heb arbed nac oedran na rhyw, ac, er ei fod ef ei hunan yn proffesu bod yn Gristion , anwybyddu'r Gristnogaeth a sefydlasid yno eisoes gan genhadon o Rufain . Aeth blwyddyn heibio; yn ystod y tair wythnos olaf yn 633 ceir ef gyda byddin fawr wedi gwersyllu yn y rhosydd i'r de o Hexham , man a elwid yn Canysgol gan y Cymry . Yma daeth Oswald o Bernicia ar ei warthaf ef a'i lu, ar ôl trafaelio trwy'r nos o'r Mur Rhufeinig ; yr oedd y cyrch mor sydyn nes lladd Cadwallon a gyrru'r Cymry ar ffo.

Llyfryddiaeth:

  • A History of Wales , 182-8;
  • Anglo-Saxon England , 1943, 1947 , 80-1;
  • Bulletin of the Board of Celtic Studies , vi, 351-4.

Awdur:

Syr John Edward Lloyd, D.Litt., F.B.A., F.S.A. (1861-1947), Bangor

Atodiadau a chywiriadau:

CADWALLON ( Bywg. , 58a) darllener Cantysgol yn lle Canysgol .