CADWGAN (bu farw 1111), tywysog

Enw: Cadwgan
Dyddiad marw: 1111
Plentyn: Maredudd ap Cadwgan
Plentyn: Morgan ap Cadwgan
Plentyn: Einion ap Cadwgan
Plentyn: Madog ap Cadwgan
Plentyn: Gruffydd ap Cadwgan
Plentyn: Henry ap Cadwgan
Plentyn: Owain ap Cadwgan
Rhiant: Bleddyn ap Cynfyn
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: tywysog
Maes gweithgaredd: Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: John Edward Lloyd

Ail fab Bleddyn ap Cynfyn (a fu farw 1075). Clywir sôn amdano gyntaf yn 1088, pryd yr ymosododd ar Ddeheubarth, gyda'i frodyr Madog a Rhiryd, a gyrru Rhys ap Tewdwr yn alltud. Yn ddiweddarach yn y flwyddyn dychwelodd Rhys gyda llynges o Iwerddon; cyfarfu â gwŷr Powys mewn brwydr y collodd Madog a Rhiryd eu bywydau ynddi ond o'r hon y gallodd Cadwgan ddianc. Rhoes marw Rhys yn 1093 gyfle i adnewyddu'r ymdrech ofer ar y De, eithr ymhen ychydig wythnosau fe welwyd mai'r Normaniaid a gâi elw o'r ymgyrch neilltuol hon, a hynny ar raddfa fawr. Tua'r adeg yna y bu i Gadwgan, er mwyn cryfhau ei atgyfnerthion, briodi merch ei gymydog Normanaidd, Picot de Sai, gŵr a oedd yn arglwydd Clun a'r cylch yn ôl ' Llyfr Domesday.' Cymerth ran bwysig pan gododd y Cymry yn oes William Rufus, gan orchfygu'r Normaniaid yn 1094 ym mrwydr Coed Yspwys (ni wyddys pa le y mae'r lle hwn), ac ymuno â Gruffydd ap Cynan i amddiffyn Môn a phan ffôdd i Iwerddon. Pan ddaeth gwell golwg ar bethau ac i'r ddau fedru dychwelyd o Iwerddon yn 1099 cafodd Cadwgan ei gyfran o Bowys gan yr iarll Robert o Amwythig ar yr amod ei fod yn talu gwrogaeth i'r gwr hwnnw; cafodd Geredigion hefyd. Gadawodd iddo'i hun gael ei berswadio i uno yng ngwrthryfel pobl Montgomery yn erbyn Harri I yn 1102, ond medrodd osgoi'r dinistr a oddiweddodd yr iarll yn 1103 a chadw ei diriogaeth.

Amharwyd ar flynyddoedd olaf ei oes gan draha a chwerylon teuluol llinach Powys. Ei fab Owain oedd un o'r troseddwyr pennaf. Gwnaeth cymryd Nest Fitzgerald trwy drais waethygu cyflwr ei dad, a adawyd ar y cyntaf heb ddim ond y maesty a gawsai pan briododd ei wraig ond a gafodd Ceredigion yn ddiweddarach. Collodd Geredigion yn 1110 o achos ychwaneg o ddrwgweithredoedd a wnaethpwyd gan Owain; rhoddwyd hi i Gilbert Fitzgerald a daeth yn arglwyddiaeth Normanaidd, a Chadwgan yntau yn ei gael ei hun heb dir ac yn dibynnu ar bensiwn brenhinol. Unwaith eto fe ddaeth tro ar fyd, sef pan lofruddiwyd Iorwerth ei frawd gan nai, sef Madog ap Rhiryd; adferodd y brenin ddehau Powys i Gadwgan. Yn yr un flwyddyn, fodd bynnag, dioddefodd Cadwgan dan law yr un gelyn annaturiol; pan oedd yn trefnu i adeiladu castell yn Trallwng Llywelyn (sef Welshpool), gosodwyd arno yn fradwrus a chafodd ei ladd heb iddo fedru gwrthwynebu fawr ddim.

Disgrifia'r 'Anglo-Saxon Chronicle' ef yn 1097 fel y mwyaf gwiw o arweinwyr y Cymry yn y flwyddyn honno; dug ei yrfa fel rheolwr beth clod iddo. Heblaw Henry a Gruffydd, y meibion a anwyd o'i wraig Normanaidd, gadawodd Owain (bu farw 1116), Madog, Einion (bu farw 1123), Morgan (bu farw 1128), a Maredudd (bu farw 1124).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.