Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



CADOG ( fl. c. 450 ), sant, un o wŷr pennaf yr Eglwys Geltaidd yng Nghymru . Yn ôl ei ‘fuchedd’ (‘Vita’), a ysgrifennwyd yn y 12fed g. , yr oedd yn fab i Gwynllyw ( tywysog Gwynllŵg yn ne-ddwyrain Cymru ) a Gwladus , merch Brychan , brenin Brycheiniog . ‘ Vita Cadoci ,’ a ysgrifennwyd, y mae'n debyg, ym mhriordy Aberhonddu gan fynach Normanaidd o'r enw Lifris neu Lifricus , ydyw'r hwyaf a'r bwysicaf yn y casgliad o fucheddau (yn Lladin ) seintiau Cymru a adnabyddir wrth yr enw B.M. Cotton MS. Vespasian A. xiv . Y mae'n debyg na wyddai'r awdur ond ychydig iawn mewn cyfnod mor ddiweddar o wir ffeithiau bywyd Cadog , er ei bod yn debygol iddo etifeddu llawer o draddodiadau lleol. Dywedir i Gadog deithio i Gernyw a Llydaw ac ymweled â Sgotland ac Iwerddon ac iddo, o'r diwedd, gael ei gymryd ymaith mewn modd gwyrthiol i Beneventana yng ngogledd yr Eidal . Y mae'n glir oddi wrth ei ‘ Vita ’ mai ei gampwaith mawr ydoedd sefydlu mynachdy enwog Llancarfan ( Nantcarfan yn wreiddiol) ym Mro Morgannwg . Yma daeth yn enwog am ei wybodaeth eang a'i waith fel athro seintiau . Y mae'n bosibl y gall tystiolaeth o wahanol leoedd fod yn sicrach prawf o gylch dylanwad, gweithrediadau, ac addoliad sant neilltuol nag y gall y dystiolaeth ysgrifenedig a gadwyd hyd ein dyddiau ni; y mae'r modd y mae hen gyflwyniadau i S. Cadog wedi eu gwasgaru yn dangos ddarfod enwi eglwysi arno yn ne-ddwyrain Cymru ac yn Llydaw . Ceir rhai eraill yng Nghernyw (ym mhlwyf Padstow gerllaw glannau Harlyn Bay ), yn sir Fôn , ac yn Cambuslang ar afon Clyde , y tu uchaf i Glasgow . Y mannau lle y ceir y rhan fwyaf o eglwysi yn fwyaf agos at ei gilydd wedi eu henwi ar ôl Cadog ydyw godreon y darn mynyddig hwnnw o Gymru a brofodd ddylanwad bywyd a diwylliant Rhufain lawnaf — o'i gymharu â'r ardaloedd uchel yr edrychid ar eu hôl gan filwyr yn unig. Yr oedd Môr Hafren hefyd yn gyfrwng pwysig trafnidiaeth henoesol a ddefnyddid unwaith eto yn y canrifoedd wedi cyfnod gallu Rhufain . Gan i seintiau 'r Celtiaid ddilyn yr hen ffyrdd hyn ar hyd y môr, mewn ardal megis de-ddwyrain Cymru y gellid disgwyl cael y cysylltiadau diwylliannol y tarddodd mynachaeth Cymru ohonynt. Dyma, felly, ran o wlad yn ffurfio cefndir addas i ystori S. Cadog , ac y mae'r llu eglwysi ar ei enw yn yr ardal yn un o'r amryw resymau dros ei ystyried ymhlith arloeswyr Cristnogaeth Geltaidd yng Nghymru . Y mae'n nodweddiadol, hefyd, fod amryw o'r hen eglwysi sydd yn parhau i ddwyn ei enw naill ai ar y ffyrdd Rhufeinig neu ynteu yn ymyl tŷ neu amddiffynfa Rufeinig . Anaml y ceir eglwysi i seintiau diweddarach wedi eu lleoli fel hyn. Dengys eglwysi S. Cadog yng ngogledd-orllewin Cymru , yn sir Fôn , ac Ystrad Clud , iddo yntau, megis y gwnaeth llawer o'r seintiau, ddefnyddio'r ffyrdd cynhanesol dros y môr a oedd yn glynu wrth arfordir gorllewinol Prydain . Er iddo ddyfod i gysylltiad â'r gogledd, yn Llydaw y bu ei waith cenhadol gan mwyaf. Yn y wlad honno cychwynnodd cylch ei ddylanwad a'i addoliad o'r fan lle y dywedir iddo ymsefydlu, sef ynys Saint Cado ym môr Etel yn y Morbihan .

Llyfryddiaeth:

  • The Lives of the British Saints , ii, 56-97;
  • G. H. Doble , St. Cadoc in Cornwall and Brittany , Truro, 1937 , 1937 ;
  • E. G. Bowen , ‘The Settlements of the Celtic Saints in South Wales,’ yn Antiquity , xix (1945) , 175-86.

Awdur:

Yr Athro Emrys George Bowen, M.A., F.S.A., (1900-83), Aberystwyth