CADELL ap GRUFFYDD (bu farw 1175).

Enw: Cadell ap Gruffydd
Dyddiad marw: 1175
Rhiant: Gruffydd ap Rhys ap Tewdwr
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Milwrol
Awdur: John Edward Lloyd

Mab Gruffydd ap Rhys (bu farw 1137). Clywir sôn amdano gyntaf yn 1138; yn y flwyddyn honno dug ef a'i frawd Anarawd , ynghyd ag Owain a Chadwaladr o Wynedd, 15 o longau rhyfel Danaidd - o Ddulyn, y mae'n fwy na thebyg - hyd at aber afon Teifi, mewn ymgais i gymryd tref Aberteifi, y lle olaf a oedd o dan lywodraeth y Normaniaid yng Ngheredigion.

Yn ystod y blynyddoedd nesaf yr oedd yn ddinod o'i gymharu â'i frawd hŷn, eithr pan lofruddiwyd hwnnw, sef Anarawd , yn fradwrus yn 1143 gan wŷr Cadwaladr daeth iddo gyfle i ddangos yn Neheubarth y gallai arwain mewn modd nerthol. Yn 1146 enillodd gastell 'Dinwileir,' a safai, efallai, yng nghwmwd Mabudrud ac a gaeresid gan Gilbert Penfro y flwyddyn gynt. Yn yr un flwyddyn llwyddodd i gymryd cestyll Caerfyrddin a Llansteffan - buddugoliaeth fwy pwysig fyth. Y flwyddyn nesaf cafwyd cyduno adnoddau milwrol a oedd braidd yn anarferol.

Ymunodd Cadell a'i frodyr ieuainc gyda Fitzgerald Penfro gan ymosod ar Gasgwis, castell Walter Fitzwiz, a chael buddugoliaeth gyda chymorth Hywel ab Owain . Ar ôl cryfhau amddiffynfeydd Caerfyrddin yn 1150 a bwrw cyrch ar ardal Cydwch, teimlodd yn ddigon hy i ymosod ar afael gwyr y Gogledd ar Geredigion, ac nid hir y bu cyn iddo ef a'i frodyr orfodi Hywel i ddianc dros afon Aeron. Yr oedd buddugoliaethau eraill fel pe'n bosibl eithr yn 1151 rhoddwyd pen sydyn ar yrfa'r pennaeth llwyddiannus - pan oedd yn hela (yn fforest Coed Rhath, y mae'n debyg) daeth marchogion a gwŷr yn ymladd â bwa a saeth o Ddinbych-y-pysgod ar ei warthaf a'i adael gan dybio ei fod wedi trengu. Bu fyw am lawer blwyddyn, ond yr oedd ei yrfa fel ymladdwr ar ben.

Yn 1153 aeth ar bererindod i Rufain, gan adael y tiroedd a enillasai yng ngofal ei frodyr. Ar ôl hyn ni chlywir sôn amdano hyd 1175, pryd y croniclir iddo fynd i abaty Ystrad Fflur ar ôl dioddef afiechyd hir ac iddo gael ei gladdu yno.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.