Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



BUTTON , Syr THOMAS (bu f. Ebrill 1634 ), llyngesydd ac anturwr .

Pedwerydd mab Miles Button , siryf Morgannwg yn 1565 , 1571 , a 1589 , a Margaret , merch Edward Lewis , y Van , Caerffili . Daethai'r teulu i feddu Worleton ym mhlwyf S. Lythan , sir Forgannwg , maenor a werthasid gan esgobaeth Llandaf . Y mae'n debyg fod eu cartref ar y cychwyn yn y fan lle y saif y Dog Hill , sef ar draws Nant Golych o blwyf S. Lythan ac felly ym mhlwyf S. Nicholas ; yn ddiweddarach, y mae'n bosibl mai yn ymyl y fan lle y saif y tŷ presennol a elwir Duffryn yr oedd y cartref. Ni wyddys ymha flwyddyn y g. Thomas Button . Aeth i'r môr c. 1589 .

Yn 1612-3 yr oedd yn bennaeth ymgyrch a anfonwyd i chwilio beth a ddaethai o Henry Hudson , ac i edrych a oedd yn bosibl myned trwy'r gogledd-orllewin i Asia ; llwyddodd Button i archwilio rhan helaeth o Hudson Bay . Pan ddychwelodd cafodd ei wneuthur yn farchog gan Iago I . Am y gweddill o'i gyfnod hir yn y llynges bu'n gwasanaethu fel llyngesydd llongau'r brenin ar arfordir Iwerddon .

Priododd Mary , merch Syr Walter Rice , Dinefwr , sir Gaerfyrddin ; bu iddynt dri mab ac un ferch. Gwnaeth ei gartref yng Nghaerdydd .

Priododd Miles , ei fab hynaf, Barbara , ferch ac aeres Rice Merrick , Cottrell , Morgannwg ; daeth ei ferch Elizabeth yn wraig y cyrnol John Poyer . Ni wyddys pa le y bu Miles f. na pha le y'i claddwyd.

Ffynonellau:

  • Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion , 1948, 35;
  • G. T. Clark , Glamorgan Worthies Some account of Sir Robert Mansel, Kt., Vice Admiral of England and Member of Parliament for the county of Glamorgan; and of Admiral Sir Thomas Button, Kt., of Worlton, and of Cardiff, in the county of Glamorgan (Dowlais, 1883) ;
  • J. S. Corbett , Glamorgan Papers and Notes on the Lordship and its members (1925) ;
  • D. R. Paterson , ‘Button Gwinnett and his family associations with Glamorgan,’ yn Trans. Cardiff Nat. Soc. , lxvi, 69-80;
  • Edgar Jones , ‘Dog Hill, Duffryn,’ yn Archaeologia Cambrensis , 1933 , 398-9.

Awdur:

Ifor Ball Powell, Y Barri

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54