Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



BUTE , Ardalyddion Bute, Castell Caerdydd , etc. Gyda chysylltiadau Cymreig y teulu dylanwadol hwn y bydd a fynno'r nodiadau sydd yn dilyn. Yn Ynys Bute , Sgotland , y mae eu prif gartref.

Yn 1551 crewyd William Herbert yn ‘ baron Herbert of Cardiff ’ ac iarll Pembroke ; mab ydoedd ef i Richard Herbert , Ewias , a'i wraig Margaret , merch ac aeres Syr Matthew Cradock , Abertawe . Cynhullodd yr Herbertiaid, ieirll Pembroke (o'r ail greadigaeth) [q.v.] , ystadau mawrion a bu eu dylanwad a'u grym yng Nghymru yn fawr; gw. HERBERT , ieirll Pembroke (o'r ail greadigaeth) . Bu'r ddau iarll cyntaf yn llywyddion Cyngor y Goror a bu eu dilynwyr yn aelodau o'r cyngor hwnnw. Daeth y 4ydd iarll yn iarll Trefaldwyn hefyd, ac o hynny ymlaen dygid y ddau deitl ynghyd. Cafodd y teulu ystadau abaty Wilton yn Wiltshire hefyd. Wedi'r Adferiad lleihaodd eu diddordeb yng Nghymru a gwanhaodd eu dylanwad yn y wlad. Gwerthwyd llawer o'u tiroedd Cymreig ac aeth y gweddill i feddiant THOMAS , yr is-iarll Windsor cyntaf ( 1699 ), a baron Mountjoy ( 1712 ), ail fab yr iarll Plymouth 1af ( 1682 ), pan ymbriododd yr is-iarll a Charlotte , unig blentyn 7fed iarll Pembroke (a Montgomery) , a gweddw yr ail farwn Jeffreys . Gwerthodd yr is-iarll Windsor rai o arglwyddiaethau'r teulu yn sir Fynwy , eithr disgynnodd y tiroedd yn sir Forgannwg i'w ŵyres, CHARLOTTE , cyd-aeres yr ail is-iarll . Priododd Charlotte Jane , 1766 , JOHN , A RGLWYDD M OUNTSTUART ( 1744 - 1814 ), mab ac aer 3ydd iarll Bute , a fu'n brif weinidog o 1762 hyd 1763 . Yn 1776 crewyd yr arglwydd Mountstuart yn ‘ B ARON C ARDIFF OF C ARDIFF C ASTLE ,’ ac, yn 1796 , yn is-iarll Mountjoy , iarll Windsor , ac yn A RDALYDD (‘M ARQUESS OF ’) B UTE .


Dechreuasai'r ardalydd Bute 1af adnewyddu castell Caerdydd er mwyn ei wneuthur yn haws byw ynddo. Bu f. yn 1814 . Gan i'w fab hynaf, John , arglwydd Mountstuart , f. o'i flaen (yn 1794 ), fe'i dilynwyd gan ei ŵyr, John , ail ardalydd Bute , a aned ar 10 Awst 1793 .


Cyfeirir at JOHN , ail ardalydd Bute ( 1793 - 1848 ), fel ‘the creator of modern Cardiff.’ Cafodd ei addysg yn Eton ac yng Ngholeg Crist , Caergrawnt ( M.A. , 1812 ). Daeth yn arglwydd-raglaw sir Forgannwg . Efe ydyw'r Arglwydd Bute y bu a fynnai ef gymaint i'w wneuthur a chynnydd cyflym Caerdydd a'r cyffiniau, yn fasnachol ac mewn ystyron eraill, yn ystod hanner cyntaf y 19eg g. Cafodd llwyddiant masnachol Caerdydd a rhannau o Ddeheudir Cymru symbyliad pwysig a hwb ymlaen pan agorwyd, 5 Hydref 1839 , y Bute Dock cyntaf, sef y West Bute Dock . (Y mae'r East Bute Dock , 1859 , y Roath Basin , 1874 , a'r Roath Dock , 1887 , yn perthyn i gyfnod olynydd yr ail ardalydd .) Yr oedd yr Arglwydd Bute yn F.R.S. , F.S.A. , F.R.A.S. , ac yn is-lywydd y Royal Cambrian Institution .


Bu'r ail ardalydd f. yn sydyn yng nghastell Caerdydd , 18 Mawrth 1848 , a dilynwyd ef gan ei fab, JOHN STUART ( 1847 - 1900 ), 3ydd ardalydd Bute . Disgrifir ei yrfa ef yn y D.N.B. Cafodd ei addysg yn Harrow a Choleg Eglwys Crist , Rhydychen . Bu'n faer Caerdydd , 1890 , yn llywydd Coleg Prifathrofaol Caerdydd , 1890 , ac yr oedd ei ddiddordebau ynghlwm mewn dulliau eraill hefyd â chynnydd Caerdydd yn fasnachol a diwylliannol. Yr oedd yn llywydd yn eisteddfod genedlaethol y Rhyl , 1892 . Yr oedd yn ysgolhaig a chyhoeddodd lyfrau : ( a ) cyfieithiad ganddo ef ei hun o'r llyfr gwasanaethau eglwysig a elwir yn ‘ Breviary ,’ 1879 — yr oedd wedi troi'n Babydd cyn hyn; ( b ) On the ancient language of Teneriffe , 1891 ; The Arms of the Royal and Parliamentary Boroughs , 1897 , yn gyd-awdur â J. R. N. Macphail a H. W. Lonsdale ); efe hefyd ydoedd cyfieithydd llyfr D. Bikelas , Seven Essays on Christian Greece , 1890 . Yn ei gyfnod ef bu llawer o waith archwilio i mewn i adeiladu'r castell yng Nghaerdydd a llawer o ailadeiladu arno. Bu f. 9 Hydref 1900 . (Am ragor o fanylion gw. erthygl faith arno yn y South Wales News , 10 Hydref 1900 .)


Dilynwyd y 3ydd ardalydd gan JOHN , 4ydd ardalydd Bute ( 1881 - 1947 ); g. 20 Mehefin 1881 . Yn ei gyfnod ef bu llawer o waith adnewyddu ar Caerdydd a Chaerffili . Gwerthodd ef y rhan fwyaf o'i ystadau yn Ne Cymru yn 1938 . Yr oedd yn ‘ Knight of the Thistle .’ Bu f. 25 Ebrill 1947 , gan gael ei ddilyn gan y 5ed ardalydd , a drosglwyddodd gastell Caerdydd i Gorfforaeth Caerdydd yn 1950 ; y mae'r castell yn awr yn gartref ysgol genedlaethol drama a cherddoriaeth . Yn 1950 hefyd trosglwyddodd y 5ed ardalydd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru y casgliad helaeth o ddogfennau'r ystad (yn cynnwys dogfennau maenorau yn Ne Cymru ) a oedd wedi cael eu cynnull ynghyd mewn canolfan yn ymyl y castell.

Llyfryddiaeth:

  • Oxford Dictionary of National Biography ;
  • The Annual Register a record of world events , Harlow , 1848 (cyhoeddwyd 1849);
  • Cardiff A Commercial and Industrial Centre , 1910 (Cardiff, 1910 );
  • John P. Grant , Cardiff Castle Its History and Architecture , Caerdydd, 1923 (Cardiff, 1923 );
  • J. Ballinger , gol., Cardiff An Illustrated Handbook , Caerdydd, 1896 (Cardiff, 1896 );
  • adroddiad rhagbaratoawl ( 1950 ) ar ddogfennau Bute yn Ll.G.C.;
  • Llawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru 6583, 6591, 6598-6600.

Awdur:

Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth

Atodiadau a chywiriadau:

BUTE , ( Bywg. , 54a, 3ydd par.). ‘ Breviary ’. 1879 nid 1877 .