BURGESS
,
THOMAS
(
1756
-
1837
),
esgob
;
g.
18 Tachwedd 1756
yn
Odiham, Hants
, ac addysgwyd yno ac yn
ysgol Winchester
. Yn
1775
daeth yn
ysgolor
o
Goleg Corpus Christi
,
Rhydychen
, a graddio
B.A.
Rhagfyr 1778
. Cymerodd ei
M.A.
yn
1782
a'i ethol yn
gymrawd
o'i goleg yn
1783
. Cafodd urddau
diacon
ac
offeiriad
gan
yr
esgob
Cornwall
o
Winchester
yn
1784
, a dyrchafwyd ef yn
brebendari
yn
eglwys gadeiriol Durham
yn
1794
, gan ddal bywoliaeth
Winston
yn yr un esgobaeth. Ym
Mehefin 1803
penodwyd ef yn
esgob Tyddewi
, a dechreuodd ar unwaith ddiwygio pethau yn yr esgobaeth. Trwyddedodd bedair ysgol y byddai'n barod i ordeinio disgyblion ohonynt ar ôl cwrs o saith mlynedd;
sefydlodd gymdeithas er hyrwyddo gwybodaeth Gristnogol ac undeb eglwysig
, a mynd ati i
gasglu cronfa er adeiladu coleg yng Nghymru i hyfforddi dynion ar gyfer urddau sanctaidd
. Llwyddodd yn nodedig yn yr ymgyrch hon, ac yn
1822
gosododd garreg sylfaen
Coleg Dewi Sant
yn
Llanbedr-pont-Steffan
. Cymerodd hefyd ddiddordeb mawr yn y bywyd Cymreig a
rhoddi ei nawdd i ymdrechion yr ‘offeiriaid llengar’
ac i
eisteddfod Caerfyrddin
yn
1819
.
Yn
1825
ymadawodd i esgobaeth
Salisbury
, a bu f. yno
19 Chwefror 1837
.
Llyfryddiaeth:
-
Oxford Dictionary of National
Biography
;
-
Harford
,
The Life of Thomas Burgess, D. D. late
Bishop of Salisbury
, 1840
.
Awdur:
Thomas Iorwerth Ellis, M.A., (1899-1970), Aberystwyth