BULKELEY-OWEN, FANNY MARY KATHERINE (1845 - 1927), awdures

Enw: Fanny Mary Katherine Bulkeley-owen
Dyddiad geni: 1845
Dyddiad marw: 1927
Priod: Thomas Mainwaring Bulkeley-Owen
Priod: Lloyd Kenyon
Plentyn: Lloyd Kenyon
Rhiant: Sarah Ormsby-Gore (née Tyrell)
Rhiant: John Ralph Ormsby-Gore
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: awdures
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: John Edward Lloyd

Unig ferch J. R. Ormsby-Gore (1816 - 1876), y barwn Harlech cyntaf. Priododd yn gyntaf, yn 1863, â'r Anrhydeddus Lloyd Kenyon (bu farw 1865); dilynodd eu mab hwy, Lloyd, ei daid yn 4ydd farwn Kenyon. Priododd yr ail waith yn 1880 â'r Parch. Thomas Mainwaring Bulkeley-Owen, Tedsmore, West Felton, a fu farw yn 1910.

Cymerth Mrs. Bulkeley-Owen ddiddordeb dwfn ym mudiadau diwylliannol Cymreig, a derbyniodd yr enw barddol ' Gwenrhian Gwynedd.' Yn 1927 cyhoeddodd hanes plwyf Selatyn, gan gynnwys hanes Brogyntyn, cartref y teulu Ormsby-Gore. Rhoes hefyd i Gomisiwn Tir Gymru yn 1894 femorandwm manwl ar hanes Maelor Saesneg. Bu farw 25 Tachwedd 1927 yn Amwythig.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.