Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



BRYDGES , Syr HARFORD JONES ( 1764 - 1847 ), llysgennad cyntaf Prydain yn Persia, ac awdur . g. 12 Ionawr 1764 , mab Harford Jones , Llanandras , sir Faesyfed , a'i wraig Winifred , merch Richard Hooper , The Whittern , sir Henffordd . (Cymerodd y mab y cyfenw ychwanegol Brydges, trwy ganiatad swyddogol, 4 Mai 1826 .)

Gan y ceir hanes Harford Jones Brydges yn y D.N.B. nid oes eisiau ond cyfeirio'n fyr ato yma. Yn gynnar yn ei oes aeth i wasanaethu yr East India Company . Daeth yn hyddysg yn rhai o'r ieithoedd dwyreiniol ac fe'i dewiswyd yn 1807 (y flwyddyn y crewyd ef yn farwnig ) yn llysgennad cyntaf (‘ envoy extraordinary and minister plenipotentiary ’) Prydain i Persia ; daliodd y swydd honno hyd 1811 . Cyhoeddodd The Dynasty of the Kajars, translated from the original Persian manuscript ( 1833 ), An Account of His Majesty's Mission to Persia in the years 1807-11, to which is added a brief history of the Wahanby ( 1834 ), Letter on the Present State of British Interests and Affairs in Persia ( 1838 ), etc. Chwig ydoedd yn wleidyddol ac yr oedd iddo gryn ddiddordeb yn etholiadau seneddol sir Faesyfed ; yn y sir honno ffurfiwyd ganddo ‘ The Grey Coat Club ,’ math o gymdeithas wleidyddol. Dewiswyd ef yn ddirprwy-raglaw sir Faesyfed yn 1841 . Cafodd radd D.C.L. (‘er anrhydedd’) gan Brifysgol Rhydychen yn 1831 , ac yn 1832 fe'i hetholwyd yn aelod o'r Cyfrin Gyngor . Priododd Sarah , merch Syr Henry Gott , Newland Park , sir Buckingham . Bu f. 17 Mawrth 1847 yn Boultibrook , gerllaw Llanandras , plasty y daeth ohono (yn 1923 ) rai o lawysgrifau'r teulu i'r Llyfrgell Genedlaethol ( N.L.W. MSS. 4901-12 ), blaenffrwyth casgliad helaethach a ddaeth i'r Llyfrgell (yn 1943 ) o Kentchurch Court , sir Henffordd . Cynnwys casgliadau Boultibrook a Kentchurch Court ( a ) ddogfennau ystad a maenorau Harford Jones , a ( b ) papurau personol a swyddogol Harford Jones Brydges — nodiadau a llythyrau llysgenhadol, papurau'r East India Company , ac yn arbennig bapurau ynglŷn â'i gyfnod yn Persia — y cwbl yn Saesneg , Ffrangeg , iaith Persia , etc.

Llyfryddiaeth:

  • Oxford Dictionary of National Biography a'r cyfeiriadau a roddir yno;
  • Handlist of Manuscripts in the National Library of Wales , 1940 ff , vii, 52-3;
  • Adroddiad Blynyddol Llyfrgell Genedlaethol Cymru , Aberystwyth , 1942-3 , 32-3.

Awdur:

Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth