Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



BRYCHAN , sant ( fl. tua chanol y 5ed g. ) Ei dad oedd Anlach , fab Coronac , yntau yn dywysog Gwyddelig , a'i fam oedd Marchell , ferch Tewdrig , brenin Garthmadryn . Ar arch ei thad aeth Marchell trosodd i Iwerddon , lle yr ymunodd mewn priodas ag Anlach , a lle hefyd y ganwyd Brychan . Wedi hyn, dychwelodd Anlach gyda'i briod a'r plentyn i Gymru , a gwnaethant eu cartref ym mhentref Benni (yn ôl pob tebyg yr hen ‘ Bannium ’ ger Aberhonddu ). Derbyniodd y mab ei addysg o dan ofal un Drichan . Wedi rhai blynyddoedd, rhoddwyd Brychan gan ei dad yn wystl i Benadel , brenin Powys . Yno treisiwyd Banadlinet , ferch Benadel , gan Frychan , a ganwyd iddi fab a enwyd Cynog . Wedi peth amser, esgynnodd Brychan i frenhiniaeth Garthmadryn ar ôl ei dad, a newidiwyd enw'r dalaith i Frycheiniog . Y ffaith hynotaf yn y traddodiad am Frychan yw y teulu enfawr a briodolir iddo ef a'i wraig, Prawst . Yn y ‘ De Situ Brecheniauc ’ ( Wade-Evans , Vitae Sanctorum Britanniae et Genealogiae , 313-5) a'r ‘ Cognacio Brychan ’ (op. cit., 315-8), prif ffynonellau yr hanes traddodiadol am Frychan , cofnodir fod ganddo 11 o feibion a 25 o ferched; a chyfrifir ei deulu yn un o dri llwyth saint Cymru . Dethlir ei ddydd gŵyl yn gyffredin ar 6 Ebrill .

Llyfryddiaeth:

  • The Lives of the British Saints , i, 303-21;
  • Y Cymmrodor , xix, 1906 , 18-50;
  • Wade-Evans , Vitae Sanctorum Britanniae et Genealogiae , Caerdydd, 1944 , 313-8;
  • Antiquity , 1945 , 182-3;
  • A History of Wales , 270-1;
  • The Transactions of the Brecknock Society and Records of the Brecknock Museum , 1928–9 , i, 7-24.

Awdur:

Hywel David Emanuel, M.A., (1921-70), Aberystwyth