BRWMFFILD (BROMFIELD), MATHEW (fl. 1520-1560), bardd

Enw: Mathew Brwmffild
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: David Jenkins

Brodor o Faelor oedd yn ôl Cwrtmawr MS 12B , t. 629. Yn ei gywydd 'I Sant Tydecho a dau blwy Mowthwy,' wedi canmol Llanymawddwy a Mallwyd fel ei gilydd, dywed mai am Fallwyd yr hiraethai fwyaf. Canodd gywyddau mawl i Risiart ap Rhys ap Dafydd Llwyd o Ogerddan tua 1520; i Rys ap Howel o Borthamyl, Môn, 'o fewn mis Tachwedd 1539 '; i Lewis Gwynn a fu farw tua 1552; ac i Siôn Wynn ap Meredith o Wydyr a fu farw yn 1559.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.