Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



BROWN , JAMES CONWAY ( 1838 - 1886 ), cerddor ; g. 27 Rhagfyr 1838 yn Blaenau , sir Fynwy , mab James Brown , un o berchenogion y Blaina Iron Works ar y pryd, a maer Casnewydd-ar-Wysg yn 1853 , 1860 , a 1861 . (O ochr ei dad yr oedd yn ŵyr i'r Richard Brown y bu cysylltiad rhyngddo ym Merthyr Tydfil â Richard Trevithick a'i beiriant, ac o ochr ei fam yn ŵyr i James Conway , gwaith haearn Pontrhydyrynn , sir Fynwy .)

Wedi iddo fod yn y Camberwell Collegiate School ac yn King's College , Llundain , rhoddwyd James Conway Brown i ddysgu gwaith meistr gwaith haearn yn yr Ebbw Vale Iron Works o dan ei ewythr, Thomas Brown , pen rheolwr y gwaith hwnnw. Rhoes fwy o sylw i gerddoriaeth nag i'r gwaith haearn, ac fe'i ceid yn cymryd rhan mewn cyngherddau — yn canu'r ffidil neu'r piano . Chwaraeai ar yr organ mewn lleoedd o addoliad ac wedi iddo ddyfod yn swyddog yn y Monmouthshire Rifle Volunteers byddai'n aml yn chwarae ym mand seithfed fataliwn y gwirfoddolwyr hynny. Yn 1861 aeth i'r Millwall Ironworks , Llundain , eithr ar gerddoriaeth yr oedd ei fryd o hyd. Dewiswyd ef yn organydd eglwys Aldershot yn 1869 , yn organydd eglwys Hale , gerllaw Fanham , yn 1875 , ac i swydd gyffelyb yn eglwys Farnham ei hunan yn 1879 . Cystadleuai mewn eisteddfodau gan ennill am anthem, caneuon, a rhanganau — e.e. yn Caerfyrddin a Rhuthyn ; enillodd am anthem yn eisteddfod genedlaethol 1886 . Ychydig cyn hynny yr oedd wedi cyhoeddi ei sonata yn E major i ffidil a phiano y dyfarnesid iddo wobr Syr Michael Costa yn Trinity College of Music , Llundain , o'i phlegid.

Llyfryddiaeth:

  • Llawysgrif Llyfrgell Genedlaethol Cymru 8044;
  • Star of Gwent , 20 Tachwedd 1869 ;
  • The Tonic Solfa Reporter and Magazine of Vocal Music for the People , Rhagfyr 1884 .

Awdur:

Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth

Atodiadau a chywiriadau:

BROWN , JAMES CONWAY ( Bywg. , 48b) bu f. 26 Ebr. 1908 ( Cerddor , 1908 ).