BROWN, MIA ARNESBY (1867 - 1931), paentiwr

Enw: Mia Arnesby Brown
Dyddiad geni: 1867
Dyddiad marw: 1931
Priod: John Alfred Arnesby Brown
Rhiant: Charles Smallwood Edwards
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: paentiwr
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth
Awdur: Thomas Mardy Rees

Ganwyd yn Cwmbran, sir Fynwy, merch y Parch. Charles Smallwood Edwards ac wyres y Parch. Loderwick Edwards, ficer Rhymni. Bu'n astudio o dan Syr Hubert von Herkomer. Dangosodd bum darlun yn y Royal Academy, 1893-1900, o dan ei henw morwynol, sef Edwards. Yn 1913, mewn arddangosfa o waith arlunwyr Cymreig cyfoes, tynnodd dau ddarlun ganddi beth sylw - ' Mary reading ' a ' The Garden Boy '; y mae'r ail yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

Priododd Syr John Arnesby Brown, R.A., paentiwr. Bu farw yn 1931.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.