Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



BROCHWEL YSGYTHROG , neu yn fwy cywir ‘Ysgithrog,’ h.y. y gŵr â'r ysgythrddant ( fl. 550 ), tywysog .

Yn ôl traddodiad efe oedd y person mwyaf trawiadol yn hen linach tywysogion cynnar Powys , yn gymaint felly ag y daeth y beirdd i alw Powys yn wlad Brochwel . Mab ydoedd i Cyngen a thad Cynan Garwyn a'r sant Tysilio , sefydlydd hen eglwys Meifod . Gan i'w ŵyr, Selyf ap Cynan , gwympo yn y gad wrth arwain y Cymry ym mrwydr Caer ( c. 613 ), nid Brochwel mo'r ‘ Brochmail ’ y dywed Beda iddo chwarae rhan llwfrddyn ar yr un amgylchiad. Yn ôl ystori Melangell , santes Pennant , yn cael ei chadarnhau gan Gerallt Gymro , yr oedd ganddo sedd frenhinol yn Amwythig , sedd nas cymerasid hyd yn hyn gan y Merciaid ac a elwid o dan yr enw Cymraeg Pengwern ; weithiau dywedir mai dyma'r man y mae castell Amwythig arno yn awr, eithr ar brydiau eraill dywedir mai lle y saif eglwys S. Chad (Hen) yr oedd.

Ffynonellau:

  • A History of Wales: from the Earliest Times to the Edwardian Conquest , 180-1, 196, 243, 247;
  • Cywyddau Iolo Goch ac Eraill, 1350–1450 , 356.

Awdur:

Syr John Edward Lloyd, D.Litt., F.B.A., F.S.A. (1861-1947), Bangor

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54