Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



BRISCOE , THOMAS ( 1813 - 1895 ), offeiriad ac ysgolhaig yn yr ieithoedd clasurol a Hebraeg ; g. yn Wrexham , 1813 , mab Richard Briscoe , fferyllydd . Addysgwyd ef yn ysgol Rhuthyn a Choleg Iesu , Rhydychen ( B.A. yn y dosbarth cyntaf yn y clasuron, 1833 ; M.A. , 1836 ; B.D. , 1834 ; D.D. , 1868 ). Fe'i hordeiniwyd yn ddiacon , 1836 , ac yn offeiriad , 1837 , gan esgob Rhydychen . Bu'n gymrawd Coleg Iesu , Rhydychen , 1834-1859 ; yn athro yno, 1835-9 ; ac yn is-brifathro , 1849-1858 . Cafodd ei wneuthur yn gurad-parhaol Henllan , sir Ddinbych , 1830-1840 , yn ficer Caergybi , 1858-1895 , ac yn ganghellor eglwys gadeiriol Bangor yn 1877 .

Yr oedd Briscoe 'n ysgolhaig da yn yr ieithoedd hen a diweddar , y Gymraeg yn eu plith. Yn 1851 cyfieithodd yn Gymraeg , o'r Almaeneg , waith Ellendorff ar y testun Ist Petrus in Rom und Bischof der Romischen Kirche gewesen? Cyfieithodd y llyfrau canlynol o'r Hebraeg : Esaiah 1853 , Job 1854 , y Psalmau a'r Diarhebion 1855 ; yn 1894 cyfieithodd y Testament Newydd i'r Gymraeg gyda darlleniadau'r fersiwn ddiwygiedig Saesneg . Bu f. Gorffennaf 1895 . Rhoddwyd ei lyfrgell i lyfrgell eglwys gadeiriol Bangor .

Llyfryddiaeth:

  • Crockford's Clerical Directory , 1858 ff ;
  • Bangor Diocesan Calendar and Clergy List … 1905-(07; 1909-13) , Bangor 1905[-14] ;
  • A. Ivor Pryce , Diocese of Bangor During Three Centuries, seventeenth to nineteenth century inclusive being a digest of the registers of the bishops , 1929 ;
  • Llawysgrif Llyfrgell Genedlaethol Cymru 9252.

Awdur:

Y Canghellor John Williams James, D.D., Aber, Bangor

Atodiadau a chywiriadau:

BRISCOE , THOMAS ( Bywg. , 47a) g. 30 Meh. 1813 ; bu f. 16 Chwef. 1895 ; yn 1843 y graddiodd yn B.D.