Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



BREEZE , SAMUEL ( 1772 - 1812 ), gweinidog gyda'r Bedyddwyr . Hanoedd o blwyf Llandinam a dechreuodd ei yrfa trwy gadw ysgol yn y Dolau , Maesyfed , lle hefyd y'i bedyddiwyd ( 1793 ). Symudodd i gadw ysgol ym Mhenrhyncoch , ger Aberystwyth , 1794 , a dechreuodd bregethu yn 1795 . Urddwyd ef 12 Mehefin 1803 i fod yn un o ddau i ofalu am Fedyddwyr cylch Aberystwyth , ond symudodd i Gastellnewydd Emlyn fis Mawrth 1812 . Bu f. 28 Medi 1812 , a chladdwyd ef yng Nghilfowyr .

Llyfryddiaeth:

  • Christmas Evans , Marwnad, er coffadwriaeth am y Parch. Samuel Breeze, Gweinidog yr efengyl yn Aberystwyth … a fu farw Medi 28, 1812, yn 40 oed , Aberystwyth, 1812 , 1812 ;
  • Saunders , Marwnad, er coffadwriaeth am y Parch. Samuel Breeze, gynt gweinidog yr Efengyl yn Aberystwyth, ond yn ddiweddar yn Nghastell newydd yr hwn a aned yn agos i Llanidloes, yn y flwyddyn 1772… , Aberystwyth, 1812 , 1812 ;
  • D. Jones , Hanes y Bedyddwyr ymhlith y Cymry , 100-4, 404-5;
  • Y Greal sef Cylchgrawn Misol at wasanaeth y Bedyddwyr , 1829 , 129, 193;
  • Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru , i, 41-2;
  • Llawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru 2183-7.

Awdur:

Y Parch. Morris Brynllwyn Owen, M.A., B.D. (1875-1949), Caerfyrddin