BREESE
,
JOHN
(
1789
-
1842
),
gweinidog gyda'r Annibynwyr
;
g. yn
Llanbrynmair
,
Medi 1789
. Yn yr
ysgol Sul
y cafodd ei brif hyfforddiant ym more oes; derbyniwyd ef yn aelod yn 20 oed yn yr
Hen Gapel
o dan weinidogaeth
John
Roberts
, a phan yn 24 oed anogwyd ef i ddechrau
pregethu
. Drwy gymorth cyfeillion anfonwyd ef i ysgol yn
Amwythig
ac oddi yno derbyniwyd ef i
athrofa Llanfyllin
a oedd newydd symud yno o
Wrecsam
o dan ofal y
Dr.
George
Lewis
. Yn ystod ei dymor yno daeth i sylw fel
pregethwr
, ac yn
1817
cafodd alwad i ofalu am
eglwys Edmund Street
,
Lerpwl
, a symudwyd yn fuan wedyn i'r
Tabernacl
,
Great Crosshall Street
. Llafuriodd yn galed yma am 17 mlynedd er hyfforddi'r achosion Cymraeg yn y ddinas a mynych y cerddai ôl a blaen i
Fanceinion
i wasanaethu'r eglwys yno. Daeth yn adnabyddus fel
pregethwr
led-led
Cymru
, ac ef a
Williams ‘o'r Wern
’ yn y cyfnod hwn a elwid amlaf i'r uchel wyliau. Yn
1835
symudodd i ofalu am eglwys
Heol Awst
,
Caerfyrddin
, ond buan y dechreuodd ei iechyd ddadfeilio, a bu f.
Awst 1842
; ym mynwent
Heol Awst
y claddwyd ef.
Pregethwr athrawiaethol
ydoedd, a phrin y medrai ei wrandawyr ei ddilyn bob amser, ond gan mor angerddol y traethai, anfynych y methai â'u hennill yn llwyr. Ceir erthygl o'i eiddo yn y gyfrol a sgrifennodd
John
Roberts
,
Llanbrynmair
[q.v.]
i bleidio'r ‘System Newydd’ sef
Galwad Ddifrifol
a ddaeth i'w hadnabod fel ‘
Y Llyfr Glas
.’ Mab iddo oedd yr hynafiaethydd
Edward
Breese
[q.v.]
.
Llyfryddiaeth:
-
R. Williams
,
Montgomeryshire Worthies
, ail arg.,
1894
, 12-3;
-
J. Dyfnallt Owen
,
Hanes Eglwys Heol Awst, Caerfyrddin
,
1926
, 53-60;
-
Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru
, iii, 435-8.
Awdur:
Y Parch. Richard Griffith Owen, M.A., (1890-1973), Bangor