Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



BREESE , EDWARD ( 1835 - 1881 ), hynafiaethydd ; g. yng Nghaerfyrddin 13 Ebrill 1835 , mab John Breese [q.v.] , gweinidog gyda'r Annibynwyr , a Margaret , merch David Williams , Saethon , Llŷn . Gwnaeth marw ei dad yn 1842 beri i dylwyth ei fam, a oedd yn ddylanwadol yn ne sir Gaernarfon , gymryd gofal ohono. Yr oedd ei ewythr David Williams [q.v.] (eisoes wedi llwyddo i raddau helaeth iawn yn ei yrfa fel cyfreithiwr ) yn abl i'w helpu mewn modd sylweddol; aeth y nai ato i'w swyddfa ym Mhorthmadog a phasio'n gyfreithiwr ei hunan yn 1857 . Yn 1859 dilynodd Breese ei ewythr yn y swydd o glerc yr heddwch yn sir Feirionnydd ac mewn swyddi lleol eraill, yn cynnwys gofal ystad teulu Madocks , ystad yr oedd yr aer iddi o dan oed ar y pryd. Bu iddo felly ran bwysig yng nghynllunio a datblygu tref newydd Porthmadog , ac edmygid ef gan y cyhoedd oblegid ei allu, ei uniondeb, a'i farn gyfreithiol deg. Yr oedd dyled David Lloyd George , a ddaeth yn fachgen ifanc i'w swyddfa, yn fawr iddo. Rhyddfrydwr ydoedd yn wleidyddol, ac eglwyswr o ran ei grefydd. Priododd, 1863 , Margaret Jane , merch Lewis Williams , Fron Wnion , Dolgellau , uchel siryf sir Feirionnydd yn 1865 .

Yn gynnar yn ei yrfa dangosodd Breese ddiddordeb cryf mewn hynafiaethau lleol . Ar ôl gwaith ymchwil yn ymestyn dros flynyddoedd lawer, a chyda chymorth ei lyfrgell breifat ardderchog, cyhoeddodd, yn 1873 , Kalendars of Gwynedd , cyfrol yn cynnwys cofnod llawn o enwau prif swyddogion cyhoeddus siroedd Môn , Caernarfon , a Meirionnydd ( uchel siryfion , aelodau seneddol , etc.), sydd yn parhau hyd heddiw'n waith cyfeirio y gellir dibynnu arno. Bu f. 10 Mawrth , gan adael chwech o blant; daeth tri ohonynt yn gyfreithwyr . Trwy ei fam hawliai ei fod yn disgyn o Rys ap Tewdwr a Trahaearn Goch o Lŷn , a mabwysiadodd arfbais ac arni'r arfau y dywedid ddarfod eu dwyn gan yr hynafiaid hyn.



Dilynodd ei fab CHARLES BREESE ( 1867 - 1932 ) ei dad nid yn unig fel cyfreithiwr ond hefyd fel un yn ymddiddori mewn hynafiaethau . Pasiodd yn gyfreithiwr yn 1889 , bu ar gyngor sirol sir Gaernarfon , a bu'n gwasnaethu fel uchgapten yn y gwarchodlu , yn gadeirydd pwyllgor gwaith y Cambrian Archaeological Association , ac (yn 1930 ) yn un o is-lywyddion y gymdeithas honno. Bu'n aelod seneddol rhyddfrydol dros ran o sir Gaernarfon o 1918 hyd 1922 .

Llyfryddiaeth:

  • Archaeologia Cambrensis , 1881 , 171-2, 1932 , 422;
  • Y Gestiana , Tremadog, 1892 , 86-7;
  • Enwogion Sir Gaernarfon , 1922 , 7-9;
  • Annals and Antiquities of the Counties and County Families of Wales .

Awdur:

Syr John Edward Lloyd, D.Litt., F.B.A., F.S.A. (1861-1947), Bangor