Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



BRADNEY , Syr JOSEPH ALFRED (‘ Achydd Glan Troddi ’; 1859 - 1933 ), hanesydd sir Fynwy ; g. 11 Ionawr 1859 , yn unig fab Joseph C. Bradney , rheithor Greete , swydd Amwythig . Cafodd ei addysg yn ysgol Harrow ac yng Ngholeg y Drindod , Caergrawnt , lle y graddiodd yn 1881 . Bu cysylltiad rhyngddo â'r milisia ac â'r fyddin o 1882 , pryd y'i ceir yn gapten ym milisia sir Fynwy , hyd ar ôl rhyfel 1914-8 .

Gwasanaethodd ei wlad mewn llu o gylchoedd ; ar gyngor sir Mynwy , fel ynad heddwch , siryf , ac is-raglaw yn ei sir, yn aelod blaenllaw o gyngor Llyfrgell Genedlaethol Cymru a'r Amgueddfa Genedlaethol , yn aelod o'r Royal Commission on Ancient Monuments in Wales , o urdd S. John of Jerusalem , etc.

Eithr fel hanesydd sir Fynwy ac un a gyhoeddodd lawer o ddefnyddiau eraill at wasanaeth haneswyr y cofir am Bradney . Cyhoeddwyd rhan gyntaf ei History of Monmouthshire yn 1904 , a rhan o'r bedwaredd gyfrol yn 1932 , ond ni chafodd yr awdur fyw i orffen y gyfrol hon. Cyhoeddwyd cyfrol 5 o History of Monmouthshire (gol. Madeleine Grey ) yn 1993 .

Heblaw'r History of Monmouthshire fe gyhoeddodd Bradney lu o lyfrau ac erthyglau, megis: ( a ) Genealogical Memoranda relating to the families of Hopkins of Llanfihangel Ystern Llewern, co. Monmouth, and Probyn of Newland, co. Gloucester ( 1889 ); ( b ) The Diary of Walter Powell ( 1907 ); ( c ) Acts of the Bishop of Llandaff ( 1908 ); ( d ) Llyfr Baglan ( 1910 ); ( e ) Hanes Llanffwyst [gan Thomas Evan Watkins , ‘ Eiddil Ifor ] ( 1922 ); ( f ) A Dissertation on Three Books ( 1923 ); ( g ) A History of the Free Grammar School in the Parish of Llantilio Crossenny ( 1924 ); ( h ) A Survey of the general history of the town of Newport and district ( 1925 ); ( i ) A Memorandum, being an attempt to give a chronology of the decay of the Welsh language in the Eastern part of the County of Monmouth ( 1926 ). Cyhoeddodd hefyd Noctes Flandricae ( Llundain ), casgliad o gerddi a rhyddiaith a gyfansoddwyd gan mwyaf yn Fflandrys yn 1917 . Ceir o leiaf ddau waith ganddo yn Lladin , sef Carmina jocosa ( 1916 ) a Carmen arall a gyfansoddodd yn 1923 pan gafodd radd D.Litt. Prifysgol Cymru . Copïodd a chyhoeddodd gofrestri eglwysi plwyfi Llantilio Crossenny a Phenrhos ( 1916 ), Llanbadog ( 1919 ), Llanddewi Rhydderch ( 1919 ), Caerwent a Llanfair Discoed ( 1920 ), a Grosmont ( 1920 ). Ysgrifennodd hefyd i gylchgrawn Cymdeithas Lyfryddol Cymru .

Daeth i'w ran, yn rhinwedd ei wasanaeth i'w wlad ac ysgolheictod ei gyhoeddiadau, lawer o anrhydeddau. Fe'i dyrchafwyd yn C.B. yn 1911 , cafodd ei wneuthur yn farchog yn 1924 , a chael gradd D.Litt. ‘er anrhydedd’ gan Brifysgol Cymru yn 1923 . Bu'n briod ddwywaith, y tro cyntaf â Rosa (bu f. 1927 ), merch Edward Jenkins , Nantygroes , sir Faesyfed , a'r ail dro a Florence , merch Francis E. Prothero , Malpas Court. Medrai Gymraeg yn bur dda a pharhaodd i ysgrifennu Lladin hyd ei farw, 21 Gorffennaf 1933 .

Llyfryddiaeth:

  • Who's who? , 1933 ;
  • Llawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru 7561-7767;
  • Miscellanea Genealogica et Heraldica , 1868–1934 , June 1924 ;
  • Y Cymmrodor , xxxi;
  • Transactions of the Woolhope Naturalists' Field Club , 1852 ff , 1924 ;
  • Gw. Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru , 14 ( 1965-66 ), 114.

Awdur:

Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth