BOYDELL, JOSIAH (1752 - 1817), paentiwr ac ysgythrwr

Enw: Josiah Boydell
Dyddiad geni: 1752
Dyddiad marw: 1817
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: paentiwr ac ysgythrwr
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth
Awdur: Thomas Mardy Rees

Ganwyd yn y Manor House, Penarlâg, Sir y Fflint, 18 Ionawr 1752, yn nai John Boydell, ysgythrwr a gwerthwr ysgythriadau, Llundain. Aeth ei ewythr John â Josiah i Lundain i'w addysgu ganddo ef a Richard Earlom. Yn ddiweddarach cyflogwyd Josiah a Joseph Farington gan yr ewythr i wneud copiau o ddarluniau yng nghasgliad Houghton er mwyn cael gwneuthur ysgythriadau ohonynt cyn i'r darluniau gwreiddiol gael eu cludo i'r Hermitage, St. Petersburg, Rwsia. Bu Josiah hefyd yn paratoi llawer o'r darluniau ar gyfer y ' Shakespeare Gallery ' a gyhoeddid gan ei ewythr. Gwnaeth y nai ddarlun da o'i ewythr. Dangoswyd llun ganddo yn arddangosfa'r Royal Academy yn 1772, a bu llu o'i ddarluniau yn cael eu dangos yno hyd 1799. Gwnaeth hefyd gopïau 'mezzotinto' o rai darluniau a wnaethpwyd gan Van Dyck a Rembrandt.

Bu farw yn Halliford, Middlesex, 27 Mawrth 1817, a chladdwyd ef ym mynwent eglwys Hampstead.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.