BOWEN, THOMAS (1756 - 1827), gweinidog gyda'r Annibynwyr

Enw: Thomas Bowen
Dyddiad geni: 1756
Dyddiad marw: 1827
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Annibynwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Richard Griffith Owen

Ganwyd 1756 yn ardal Capel Isaac. Cyfyng oedd ei amgylchiadau a gorfu iddo ddechrau ennill ei fywoliaeth yn ifanc. Cynorthwyodd ei feistr o amaethwr ef i gael addysg gyda'r Parch. J. Griffiths, Glandŵr, ac yn 1777 aeth i athrofa y Fenni. Yn 1781 galwyd ef i Faesyronnen a gwelodd yno gryn adfywiad ar yr achos; ehangodd ei faes; dirwywyd ef gan ynadon Aberhonddu am bregethu mewn tŷ heb ei drwyddedu ym mhlwyf Llansantffraid. Sefydlodd achosion newydd yn y cylch.

Yn 1795 symudodd i eglwys Maesyrhaf, Castellnedd. Ef a gychwynnodd eglwysi Melincwrt ac Aberafan yn ogystal â'r ysgol Sul gyntaf yn yr ardal. Bu yno gythrwfl ar fater o athrawiaeth, ac ymadawodd nifer o Faesyrhaf a chychwyn achos Undodaidd yn y dref. Bu farw 27 Chwefror 1827.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.