BOWEN, SAMUEL (1799 - 1887), Macclesfield, athro a gweinidog gyda'r Annibynwyr

Enw: Samuel Bowen
Dyddiad geni: 1799
Dyddiad marw: 1887
Rhiant: Mary Bowen
Rhiant: Dafydd Bowen
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: athro a gweinidog gyda'r Annibynwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: Richard Griffith Owen

Ganwyd 10 Hydref 1799 ym mhlwyf Cilrhedyn, Sir Gaerfyrddin. Ei dad, Dafydd Bowen, Brynchwith, oedd un o sylfaenwyr yr achos Annibynnol ym Mlaenycoed, lle y symudasai'r teulu. Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg Caerfyrddin. Yn Ionawr 1820 derbyniwyd ef i athrofa Llanfyllin (a symudwyd i'r Drenewydd yn 1821). Ar derfyn ei gwrs yn 1824 dewiswyd ef yn athro yn y clasuron yn yr athrofa, ac yn niwedd y flwyddyn daeth hefyd yn weinidog cyntaf eglwys Ceri gerllaw y dref. Yn 1829 cyhoeddodd draethawd ar Yr Iawn a dynnodd gryn sylw ar y pryd, ac a ailgyhoeddwyd yn 1856. Yn 1830 aeth yn weinidog i Macclesfield, a bu yno 30 mlynedd. Symudodd i fyw i Burnley a pharhaodd i bregethu hyd 1875; bu farw yno 11 Ebrill 1887.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.