BOWEN, JOHN (1815 - 1859), esgob Sierra Leone

Enw: John Bowen
Dyddiad geni: 1815
Dyddiad marw: 1859
Rhiant: Thomas Bowen
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: esgob Sierra Leone
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Bertie George Charles

Mab i'r Capten Thomas Bowen o'r Cwrt, Llanllawer, gerllaw Abergwaun (Fenton, Pemb., arg. 1903, 312); ganwyd 21 Tachwedd 1815. Tirfeddianwyr oedd teulu ei dad (yn wreiddiol o Hwlffordd) yn byw yn Lewerton ym mhlwyf Camrhos ac yn Manorowen. Symudodd ei rieni o'r Cwrt i Stonehall ac yna yn 1830 i Johnston Hall. Yn 1847 etifeddodd ystad Milton ym mhlwyf Carew ar ôl ei ewythr William Bowen.

Gwelir hanes ei yrfa, neilltuol hynod a diddorol, yn Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru Isaac Foulkes, a'r DNB, ar sail y Memorials of John Bowen a gyhoeddwyd gan ei chwaer yn 1862. Ar ôl ffermio yng Nghanada o 1835 hyd 1842, rhoes ei wyneb ar urddau eglwysig; cymerodd ei radd yng Ngholeg y Drindod yn Nulyn yn 1847 (LL.D., 1857); urddwyd ef yn 1846 a chafodd fywoliaeth yn 1853; eithr fe'i cysegrodd ei hunan a'i gyfoeth i waith y genhadaeth dramor, gan ymweld sawl tro â chenadaethau Eglwys Loegr yn y Dwyrain. Yn 1857 fe'i dyrchafwyd yn esgob Sierra Leone, ond bu farw yn Freetown, 28 Mai 1859.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.