Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



BOWEN , D. E. ( fl. 1840-1880 ), golygydd, awdur, a gweinidog gyda'r Bedyddwyr yn U.D.A.

Ganwyd yn sir Forgannwg , eithr ymfudodd i U.D.A. pan oedd yn ieuanc. Bu'n weinidog gyda'r Bedyddwyr Cymreig yn Carbondale , Pennsylvania , am gyfnod. Daeth i amlygrwydd fel golygydd Y Gwyliedydd ( 1843 ), cylchgrawn cyntaf Bedyddwyr Cymraeg U.D.A. , a'i olynydd Y Seren Orllewinol ( 1844 ). Y mae'n bosibl mai efe hefyd a oedd yn gyfrifol am Y Beread ( 1841 ), cylchgrawn pythefnosol at wasanaeth y Bedyddwyr . Cyhoeddodd The Berean; or Miscellaneous Writings of the Reverend D. E. Bowen, Carbondale, Pa. ( Carbondale , d.d. ), a Lecture on the Life and Genius of the Reverend John Williams, Senior Pastor of the Oliver Street Baptist Church, New York ( New York , d.d. ).

Ffynonellau:

  • Y Seren Orllewinol , 1844, 10 ;
  • Llawysgrif Ashby yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor .

Awdur:

Robert (Bob) Owen, O.B.E., M.A., (1885-1962), Croesor

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54