Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



BOWEN , DAVID ( 1774 - 1853 ), Felinfoel ; g. yn Bryn Bach , Felinfoel , 11 Rhagfyr 1774 . Bedyddiwyd ef gan Daniel Davies , Felinfoel , 14 Mai 1797 , a dechreuodd bregethu yn 1798 . Urddwyd ef 25 Awst 1806 gan Titus Lewis a Joshua Watkins , Caerfyrddin , i fod yn gydweinidog a Daniel Davies , a chartrefai ym Mhontlludw . Yn 1831 ffurfiwyd Seion , Llanelli , yn eglwys, a dewiswyd Bowen ganddi i'w bugeilio. Treuliodd weddill ei oes i'w gwasanaethu a bu f. 18 Tachwedd 1853 .

Llyfryddiaeth:

  • B. Humphreys , Hanes Bedyddwyr Felinfoel Cyfrol goffa dau can mlwyddiant, 1709-1909 , Llanelli, 1909 .

Awdur:

Y Parch. Morris Brynllwyn Owen, M.A., B.D. (1875-1949), Caerfyrddin