Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



BOWEN , BEN ( 1878 - 1903 ), efrydydd a bardd ; chweched plentyn Thomas a Dinah Bowen , Treorci , Rhondda . Addysgwyd ef yn ysgol fwrdd Treorci , ysgol golegol Pontypridd , a Choleg y Brifysgol , Caerdydd . Yn lowr ieuanc, dan ddylanwad cymdeithasau llenyddol lleol, eisteddfodau, ac ysgrifau D. W. Jones (‘ Dafydd Morgannwg ’) yn y South Wales Weekly News , a Thomas Williams (‘ Brynfab ’) yn Y Darian , bu ganddo ddiddordeb y tu hwnt i'w oed mewn barddoniaeth. Erbyn cyrraedd ei 18 oed yr oedd wedi ennill cydnabyddiaeth fel bardd addawol. Enillodd gadeiriau eisteddfodol ym Mhenrhiw ceibr ( 1896 ) ac Aberdâr ( 1897 ). Gadawodd y pwll glo yn 1897 er mwyn paratoi ar gyfer gweinidogaeth y Bedyddwyr ; yn yr un flwyddyn cyhoeddodd gasgliad byr o farddoniaeth, Durtur y Deffro . Torrodd ei iechyd yng Ngorffennaf 1899 , ac oherwydd hynny fe fethodd orffen ei flwyddyn gyntaf ( 1899-1900 ) yng Ngholeg y Brifysgol , Caerdydd . Yr oedd yn ail am y goron yn eisteddfod genedlaethol Lerpwl , 1900 , a hawliodd ei bryddest ‘ Pantycelyn ’ gryn sylw. Rhoes tysteb genedlaethol gyfle iddo dreulio Ionawr 1901 hyd Gorffennaf 1902 mewn gwledydd tramor, yn bennaf yn Kimberley , Deheudir Affrica . Erbyn hyn yr oedd wedi ei drwytho'n dda mewn llenyddiaeth Gymraeg a Saesneg . Ymddiddorai yn syniadau gwyddonol ei ddydd a'u harwyddocâd diwinyddol, ac yr oedd yn efrydydd trwyadl o lenyddiaeth yr Almaen . Parodd ei erthyglau (ar bynciau athrawiaethol) mewn cyfnodolion Cymraeg ddadlau chwerw ac ymosodiadau personol.

Wedi iddo ddychwelyd i Gymru diarddelwyd ef gan ei eglwys — Moriah , Pentre . Aeth cyflwr ei iechyd yn waeth a bu f. yn Ton Pentre 16 Awst 1903 ; claddwyd ef yn Treorci .

Gwnaeth ei bersonoliaeth, ei wroldeb ieuanc, ei ddeall cyflym, a'i addewid lenyddol argraff ddofn ar ei gyfoeswyr. Cyfyngid arno fel bardd gan ffurfiau llenyddol ac egwyddorion artistig y 19eg g. a oedd yn cyflym ddiflannu. Er hynny, y mae rhai darnau o'i waith ar ffurf y bryddest a'r awdl o safon uchel. Yn ei gyfnod olaf dylanwadwyd arno'n fawr gan y mudiad rhamantaidd newydd ym marddoniaeth Cymru . Dengys ei bregethau, ei erthyglau, a'i lythyrau gadernid ei arddull mewn rhyddiaith.

Golygwyd ei weithiau gan ei frawd ‘ Myfyr Hefin .’ Y maent yn cynnwys Cofiant a Barddoniaeth Ben Bowen ( 1904 ), Rhyddiaith Ben Bowen ( 1909 ), Blagur Awen Ben Bowen ( 1915 ), Ben Bowen yn Neheudir Affrica ( 1928 ), Ben Bowen i'r Ifanc ( 1928 ).

Awdur:

Syr Benjamin Bowen Thomas, M.A.,(1899-1977), Llundain / Bangor