Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



BOSANQUET (TEULU). Y mae'r teulu yn tarddu o'r Huguenotiaid ; daeth y cyntaf ohonynt i Loegr o Lunel , gerllaw Montpellier , yn 1685 . Llwyddodd y teulu ym myd masnach a cheir hwynt wedi ymsefydlu yn Forest House y tu allan i Epping Forest . Dyddir y cysylltiad â gororau Cymru o'r adeg y prynwyd Dingestow Court , gerllaw Trefynwy , gan SAMUEL BOSANQUET ( 1744 - 1806 ), llywodraethwr y Bank of England . Gwnaeth ei fab, yntau hefyd yn SAMUEL ( 1768 - 1843 ), y tŷ hwn yn brif gartref iddo'i hun (yr oedd yn siryf sir Fynwy yn 1814 ), a rhoes ei wyr, SAMUEL BOSANQUET ( 1800 - 1882 ), oes hir i wasanaeth y sir, gan ddyfod yn gadeirydd y sesiwn chwarter . Yn y cyfamser cadarnhawyd y ddolen gydiol â Chymru pan brynwyd llawysgrifau Cymraeg gwerthfawr, yn eu plith fersiwn Gymraeg gynnar o ‘ Historia ’ Sieffre o Fynwy , a olygwyd yn 1942 gan Henry Lewis o dan y teitl Brut Dingestow . Ffurfiasid y casgliad llawysgrifau ar y cyntaf gan Syr JOHN BOSANQUET ( 1773 - 1847 ), barnwr a gŵr llên , ond daeth i feddiant ei nai; fe'i prynwyd yn 1916 gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru . Un o feibion S. R. Bosanquet ( 1800 - 1882 ) ydoedd Syr FREDERICK BOSANQUET ( 1837 - 1923 ), barnwr yn y Central Criminal Court o 1917 . Yr oedd aelod o gangen o'r teulu a oedd yn byw yn Northumbria (yn Rock , gerllaw Alnwick ), sef ROBERT BOSANQUET ( 1871 - 1925 ), yn archaeolegwr enwog. Oherwydd hyn fe'i dewiswyd yn 1908 yn aelod o'r Royal Commission on Ancient Monuments in Wales ; gwasanaethodd ar y comisiwn hyd ei farw, ac ysgrifennodd ar leoedd Rhufeinig i'r gwahanol adroddiadau a gyhoeddwyd gan y comisiwn.

Llyfryddiaeth:

  • Llawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru 5261-75;
  • Oxford Dictionary of National Biography , 1922-1930 .

Awdur:

Syr John Edward Lloyd, D.Litt., F.B.A., F.S.A. (1861-1947), Bangor