BONAPARTE
,
Y Tywysog
LOUIS-LUCIEN
(
1813
-
1891
),
mab i
Lucien
(a nai i
Napoleon
)
Bonaparte
; g. yn
Thorngrove
,
Worcestershire
,
Lloegr
, ac yn
Lloegr
y bu hyd y flwyddyn
1848
, pryd y dychwelodd i
Ffrainc
lle y gwnaed ef ar ôl y
chwyldro
yn
ddirprwy
dros
Corsica
(
28 Tachwedd
). Pan ddiddymwyd yr etholiad hwnnw, fe'i hetholwyd ym
Mehefin 1849
yn
ddirprwy
dros
Seine
. Eisteddodd ar y ddeau yn y
Gymanfa Ddeddfwriaethol
ond ni chymerodd ran uniongyrchol yn ‘coup d’état’ ei gefnder yn
Rhagfyr 1850
. Enwodd
Napoleon
III
ef yn
seneddwr
ac yn
dywysog
, ond nid ymddiddorodd nemor mewn gwleidyddiaeth yn ystod yr
Ail Ymerodraeth
, ac ar ôl cyhoeddi'r
Drydedd Weriniaeth
yn
1870
ymneilltuodd i
Loegr
lle yr ymroddodd i
astudio ieitheg
. Ei brif bwnc oedd
iaith y Basgiaid
, ond astudiodd yr
ieithoedd Celtaidd
hefyd, a
chyhoeddodd astudiaethau ar dreigliadau cytseiniaid ar ddechrau geiriau
; gw. yn arbennig
Initial Mutations in the Living Celtic, Basque, Sardinian, and Italian Dialects
,
1885
. Yn ei feddiant ef yr oedd yr unig gopi a gadwyd o lyfr
Morys
Clynog
,
Athravaeth Gristnogavl
, ac y mae
Cymru
yn ddyledus iddo nid yn unig am alw sylw at y copi hwnnw eithr hefyd am ei drawslythrennu i'r
Cymmrodorion
a chaniatáu iddynt ei gyhoeddi yn
1880
.
Llyfryddiaeth:
-
Encyclopaedia Britannica
(14th), iii, 836, Bonaparte (y teulu);
-
Revue Celtique
, 1870–1934
, xiv,
1893
, 71-2;
-
Athravaeth Gristnogavl, le cair uedi cynnuys
yn grynno'r hol brifbynciau syd i gyfaruydo dyn ar y phord
i baraduys. Originally printed at Milan, A.D. 1568.
Reproduced in fac-simile from the unique copy in the
possession of H.I.H. Prince L. L. Bonaparte, etc.
,
Llundain, 1880
(Hon. Soc. of Cymm.),
1880
.
Awdur:
Yr Athro John Ellis Caerwyn Williams, M.A., B.D., (1912-99), Bangor /
Aberystwyth