Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



BODVEL (TEULU), Bodfel , sir Gaernarfon , Caerfryn , sir Fôn , etc. Y mae teulu Bodvel yn olrhain eu tras i Gollwyn ap Tangno . Daethant i sylw gyntaf ym mherson JOHN , Bodvel (bu f. 1576 ), a gariai'r faner frenhinol dros iarll Warwick ( Northumberland wedi hynny), ac a wobrwywyd trwy gael Ynys Enlli . Carcharwyd ei fab HUGH ( BODVEL ) , a fu f. 1611 , am iddo wrthwynebu iarll Leicester (mab noddwr ei dad) pan oedd hwnnw yn ‘ Ranger of Snowdon Forest ’; tra bu yng ngharchar rhoddwyd comisiwn i Nicholas Robinson , esgob Bangor [q.v.] , ac Elis Prys [q.v.] i chwilio i mewn i'w berthynas — fel ‘known papist ’ — â'i frawd-yng-nghyfraith Hugh Owen , Plas-du ( 1538 - 1618 ) [q.v.] , a oedd yn alltud yn Brussels . Ni chafwyd tystiolaeth a'i gwnâi yn euog ac, yn 1589 , ar ôl iddo ymgymodi â Leicester , gwnaethpwyd Bodvel yn aelod seneddol dros sir Gaernarfon ; bu hefyd yn siryf y flwyddyn honno ac yn 1597 .

Mab neu frawd iau i Hugh Gwyn ( Bodvel ) oedd ROGER GWYNNE ( 1577 - 1605? ), offeiriad Catholig a chenhadwr . Pan oedd yn ieuanc daeth dan ddylanwad y Tad William Davies (bu f. 1593 ) [q.v.] , ac yng ngofal hwnnw ac ar ei ffordd i'r Iwerddon yr oedd ef (a thri arall a oedd hefyd yn bwriadu paratoi ar gyfer yr offeiriadaeth ), a than ofal Robert Pugh , Penrhyn [q.v.] , pan gymerwyd ef a hwythau i'r ddalfa yng Nghaergybi ( 1591 ) a'u carcharu am dri mis ym Miwmares ; gwrthododd y tri ddatgyffesu er iddynt ddioddef artaith. Pan ryddhawyd ef aeth Gwynne i Sbaen a dechrau astudio yn ysgol y Catholigion yn Valladolid yn 1596 . Ordeiniwyd ef yn 1602 a chafodd ei anfon i'r genhadaeth yng Nghymru y flwyddyn ddilynol eithr daliwyd y llong yr oedd arni pan oedd ar ei ffordd i Abertawe ; holwyd Gwynne gan yr awdurdodau ac anfonwyd ef i Dŵr Llundain a'i gyhuddo (er nad mewn llys) o gyffesu iddo fod yn cynllwyn i ladd Iago I . Awgryma Gardiner ( Hist. , i, 106) i'r ‘gyffes’ hon beri i'r blaid a oedd yn elynol i Sbaen yng nghyngor y brenin deimlo ei bod wedi ennill buddugoliaeth; eithr hwy, efallai, a ddyfeisiodd y ‘gyffes.’ Cadwyd Gwynne yn y Tŵr hyd 1605 ac ni chlywyd sôn amdano wedyn.

Y mae'n bosibl fod ROBERT GWYNNE ( fl. 1578 ) o'r un teulu, ond ni ddaeth golau ar ei dras ef hyd yn hyn ( gw. dan Gwynne ).



CHARLES GWYNNE , alias Bodvel neu Bodwell , alias Browne ( 1582 - 1647 ), cenhadwr dros y Jesiwitiaid ; mab oedd ef i Thomas Wynn , Boduan , ger Pwllheli (mab iau John Wynn ap Hugh Bodvel ), ac Elisabeth , merch Owen ap Gruffydd , Plas Du , a chwaer Hugh Owen [ v.s. ] . Magwyd Charles yn Brotestant a bu dan addysg (‘learned grammar’) yn ei sir ei hun, ond wedi iddo ymgymodi â Rhufain (trwy offerynoliaeth y Tad J. Chambers ) pan oedd yn ymweld â Hugh Owen yn Brussels aeth i'r Coleg Seisnig yn Rhufain , lle yr ordeiniwyd ef yn 1620 . Fe'i danfonwyd yn 1623 ar genhadaeth Gymreig St. Francis Xavier , dilynodd y Tad John Salusbury [q.v.] yn rheithor y genhadaeth honno yn 1625 , a bu'n foddion i sefydlu ei chanolfan yn Cwm ( Llanrothal , sir Henffordd ), yn bennaf trwy garedigrwydd Morganiaid Llantarnam [q.v.] . Cafodd gan ei ewythr Hugh Morgan , Hilton , foddion i gynnal Cymro fel efrydydd yn Rhufain , ac felly y gallodd David Lewis (bu f. 1679 ) [q.v.] , nai y Tad Augustine Baker ( 1575 - 1641 ) [q.v.] , fynd i'r Coleg Seisnig yn 1638 . Yn 1618 cafodd Gwynne arian Hugh Owen a ddietifeddiasai yr aer cyfreithiol, John Owen yr epigramydd [q.v.] , am fod llyfrau hwnnw wedi eu dodi ar ‘Index’ y pab , sef ymhlith gweithiau y gwaherddid i ddeiliaid Eglwys Rufain eu darllen. Rhoes Gwynne dabled yn y Coleg Seisnig i goffa Hugh Owen ( Arch. Camb. , II, iv, 130-1).


JOHN BODVEL (neu BODVILLE ) ( 1617 - 1663 ), cyrnol ym myddin y brenin Siarl I ; mab ac aer Syr John Bodvel , a wnaethpwyd yn farchog yn 1614 ac a fu f. 1631 ; ŵyr Hugh Gwyn Bodvel , ac Elisabeth , merch Syr John Wynn , Gwydir [q.v.] , ydoedd ef. Aeth i'r Middle Temple yn 1633 , ac yn 1640 priododd Ann , merch Syr William Russel , Chippenham , swydd Caergrawnt , cyd-drysorydd y llynges . Bu'n aelod seneddol dros sir Fôn (lle y cawsai ei daid ystad Caerfryn , trwy briodas) yn y Senedd Fer a'r Senedd Faith , gan ochri gyda'r Protestaniaid hynny a oedd yn gwrthwynebu llys y brenin ; fe'i dewiswyd ( Mawrth 1642 ) gan Dŷ'r Cyffredin yn ddirprwy-arglwydd-raglaw sir Gaernarfon . Ar 2 Awst 1642 caniatawyd iddo ei absenoli ei hun o'r a chafodd hefyd offer rhyfel er mwyn iddo gael amddiffyn ‘ei gartref yng Nghymru ’; ychydig yn ddiweddarach, fodd bynnag, ymunodd â phlaid y brenin , fe'i gwnaethpwyd yn ‘custos rotulorum’ sir Fôn yn 1643 , a bu yn y Senedd a gyfarfu yn Rhydychen fis Ionawr 1644 — cafodd radd D.C.L. yno yr un pryd. Ym mis Gorffennaf y flwyddyn honno aeth Bodvel a'i deulu i Gaerfryn , a bu'n amlwg i ddechrau fel llywodraethwr Caernarfon , yna fel cyrnol yn amddiffyn Môn , ac wedi hynny yn y drafodaeth cyn traddodi'r ynys i'r blaid arall fis Gorffennaf 1646 . Atafaelwyd ei ystadau fis Tachwedd 1647 a bu raid iddo hefyd dalu dirwyon oherwydd iddo gynorthwyo pleidwyr y brenin a wrthryfelodd yn sir Fôn yn 1648 . Ffodd dros y môr pan ddienyddiwyd y brenin , a phan ddychwelodd rhoddwyd ei enw yn Act seneddol 1651 a oedd yn delio a mater gwerthu eiddo'r ‘delinquents’; ni werthwyd mo'i eiddo ef, fodd bynnag, ac ym mis Ebrill 1655 peidiwyd â'i gyfrif ymysg y ‘delinquents.’ Cyn belled yn ôl â 1646 yr oedd ei wraig, a oedd yn Biwritan selog, wedi apelio at Dŷ'r Arglwyddi am gael symud y plant o ofal eu tad oherwydd yr esiampl ddrwg a roddai ef iddynt; yn 1657 trefnodd hi, heb ei ganiatad ef, briodas rhwng eu hail ferch Sarah , a oedd yn nodedig am ei phrydferthwch, a Robert , mab yr Arglwydd Robartes , Presbyteriad cyfoethog yng Nghernyw a ‘ field marshal ’ ym myddin Cromwell . Gwrthododd Bodvel gydnabod y briodas ond wedi'r Adferiad ( 1660 ) fe ildiodd a daeth yn dad bedydd i'w ail ŵyr, Charles Bodvel Robartes , gan addo ei wneuthur yn aer iddo'i hun a rhoddi iddo addysg Gymreig. Fodd bynnag, buasai ei berthynas, Thomas Wynn , Boduan (bu f. 1673 ) , ŵyr y Thomas Wynn a enwir uchod ( gw. dan Charles Gwynne , 1582 - 1647 ) , a chyndad yr Arglwydd Newborough cyntaf [q.v.] , am beth amser cyn hyn yn cynllwyn i gael ystadau Bodvel ; llwyddodd i beri i Bodvel droi yn erbyn ei deulu, trefnodd iddo ymguddio yn Llundain rhag y bobl a oedd am iddo dalu arian echwyn yn ôl iddynt, a phan oedd yn y cyflwr tlawd a gresynus hwn, ac yn wael o ran ei iechyd a'i feddwl, gwnaeth Bodvel ewyllys newydd ( 1662 ) a gadael ei ystadau i fab Wynn , sef Griffith (a gymerth yr enw Bodvel) ac i gâr arall. Pan fu John Bodvel f. ( Mawrth 1663 ) daeth yr Arglwydd Robartes a'i fab â chyngaws yn llys y Chancery ac yn Nhŷ'r Arglwyddi yn erbyn yr ewyllys honno, a llwyddasant, yn 1666 , i gael pasio gweithred seneddol yn ei diddymu o blaid CHARLES ROBARTES ( 1660 - 1697 ), a ddaeth yn ddiweddarach yn ail iarll Radnor yn 1685 ; buasai brawd hyn Charles farw. Pan oedd ef o dan oed trwyddedwyd Bodvel House (o dan y Declaration of Indulgence , 1672 ) yn lle y câi Independiaid gyfarfod ynddo i addoli, a bu James Owen ( 1654 - 1706 ) [q.v.] yn byw yno am beth amser. Buwyd yn ceisio trefnu priodas rhwng Charles Bodvel Robartes a theulu Gwydir , ond rhoddwyd terfyn ar y cynigiadau yn 1679 , pan oedd ef yn 19 oed. Pan fu farw ei dad (yn 1682 ) dilynodd ef yn faer Caernarfon a chwnstabl y castell ; pan ddaeth yn iarll , fodd bynnag, gwerthodd ei ystadau Cymreig; cadwodd ei swyddi yng Nghymru (swydd ‘ Chief Ranger of Snowdon ’ yn eu plith), gan drefnu i'r dyletswyddau a oedd yn gysylltiedig a hwy gael eu cyflawni gan eraill drosto, ac aeth i fyw i Lundain lle y daeth yn gyfeillgar iawn â'r Deon Swift .

Llyfryddiaeth:

  • Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon , i, 48; vi, 1-22, 33, a'r gweithiau a enwir yno;
  • Edwards . A Catalogue of Star Chamber Proceedings Relating to Wales , 1929 , 32;
  • Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion , 1936 , 97-103, 216;
  • Bulletin of the Board of Celtic Studies , vii, 358;
  • English Historical Review , liii, 635;
  • Sir John Wynn , The History of the Gwydir Family , ed. J. Ballinger , 1927 , 74;
  • Foley , Records of the English Province of the Society of Jesus (1570–1800 ) 1877–9 , 1878 , iv, 335-6, 399;
  • T. P. Ellis , The Catholic Martyrs of Wales, 1535-1680 , 1933 , 1932 , 130, 153-4, 181-2;
  • N.L.W. Llawysgrifau Bodvel yn Archifdy Gwynedd, Caernarfon , Glynllifon deeds yn Archifdy Gwynedd, Caernarfon 107, 136, 198, 202, 216, 292, 2443, 2454, 4236-7, 4597, Llawysgrif Bodewryd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth 22, Llawysgrifau Carreglwyd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth ii, 422, 553, 588, 602, 634, 638, 2212, Llawysgrifau Llanfair a Brynodol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth , bundle 94.

Awdur:

Athro Emeritus Arthur Herbert Dodd, M.A., (1891-1975), Bangor

Atodiadau a chywiriadau:

BODVEL , (TEULU; Bywg. , 38a) gw. t. 846b lle y priodolir sefydlu coleg S. Francis Xavier yn y Cwm i Thomas Salusbury yn 1622 . Yn y fl. honno y gwnaethpwyd y Cwm , Llanrhyddol , yn bencadlys talaith newydd Cymdeithas Iesu a'i alw yn goleg S. Xaverius . Bu'r tad, John Salusbury , f. yn 1625 a dilynwyd ef yn y rheithoriaeth gan Bodvel .