Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



BLOOM , MILBOURN (bu f. 1766 ), gweinidog gyda'r Annibynwyr . Ni wyddys pa bryd y g. ef; honna traddodiad ei fod yn un o deulu Castell Pigyn ( Abergwili ); yn ôl N.L.W. MS. 5456 gellid cerdded o'i gartref i Gaerfyrddin o fewn yr awr. Daw i'r golwg ym Mawrth 1743 ( Recordiau Cymdeithasfa'r M.C. yn Ll.G.C. ) fel ‘ cynghorwr cyhoeddus ’ (h.y. teithiol), ac yr oedd yn arolygwr seiadau y tu isaf i Dywi . Ond ym Medi yn yr un flwyddyn cefnodd ar y Methodistiaid ( llythyr 973 yng nghasgliad Trefeca , a llythyr arall a argraffwyd ar t. 270 o Life of Howell Harris , H. J. Hughes ), a throes ei wyneb at y weinidogaeth Annibynnol ; derbyniwyd ef yn aelod o eglwys Christmas Samuel [q.v.] yn y Pant Teg ar 13 Medi 1743 ( Cofiadur 1953 , 54) . Y mae cyfeiriadau ato yn nyddiadur Thomas Morgan ( Llsgr. 5456 yn Ll.G.C. ) ar hyd 1744 . Ar 26 Medi 1745 ( Llyfr eglwys y Cilgwyn , yn Y Cofiadur , 1923 ), urddwyd ef i gynorthwyo Samuel . Yr oedd yn fugail ar Ben-y-graig o 1748 hyd 1757 , ac yn 1757 dengys recordiau'r Bwrdd Presbyteraidd ei fod yn y Gwernogle ; symudodd oddi yno i Bentre-ty-gwyn yn yr un flwyddyn. Bu f., meddai ei gyfaill Thomas Morgan , yn 1766 .

Llyfryddiaeth:

  • Llawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru 5455, 5456 (papurau Thomas Morgan );
  • A History of Carmarthenshire , 1935–9 ., ii. 197 n., 200-1;
  • Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru , iii, dan enwau'r eglwysi a nodwyd uchod.

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor