Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



BLETHIN , WILLIAM , esgob Llandaf o 1575 hyd 1590 ; yr oedd yn Gymro Cymraeg a g. ef yn Shirenewton Court , sir Fynwy , o linach Hywel Dda ; yr oedd ei gâr Morgan Blethin yn abad Llantarnam yn 1532 .

Priododd Blethin Anne Young , nith Thomas Young , prifathro Broadgates Hall , Rhydychen ( esgob Tyddewi ac archesgob Caerefrog wedi hynny). Pan fu Anne f. yn 1589 priododd Blethin Anne arall yr un flwyddyn. Cafodd ei addysg yn New Inn (neu Broadgates) Hall , Rhydychen . Yn 1559 yr oedd yn rheithor Sunningwell , swydd Berks ; y flwyddyn ddilynol fe'i disgrifir yn rheithor Rogiet , sir Fynwy , er nad yn breswyl gan ei fod yn parhau i astudio yn Rhydychen . Yr oedd hefyd yn ganon (S. Dyfrig) yn eglwys gadeiriol Llandaf . Yn 1562 cafodd radd B.C.L. a'i ddewis yn ganon (Osbaldkirk) yn eglwys gadeiriol Caerefrog . Yr oedd yn rheithor preswyl Rogiet o 1563 hyd 1570 , a hefyd yn archddiacon Brycheiniog .

Fe'i cysegrwyd yn esgob Llandaf , 17 Ebrill 1575 , gan yr archesgob Parker , a chafodd ganiatâd arbennig i ddal y bywiolaethau a'r swyddi eraill hefyd oherwydd tlodi sedd Llandaf . Fe'i profodd ei hun yn weinydd cryf, yn ddisgyblydd llym , ac yn elyn cryf i'r rhai na chydffurfiai . Cofir amdano'n arbennig yn herwydd ei ystadudau; yn y rhain gosodwyd allan ganddo beth oedd statws yr esgob , pa le yr oedd y canoniaid a'r ficeriaid corawl i fyw a pha beth oedd eu dyletswyddau, sut yr oeddid i ofalu am eiddo, adeiladau, a chynnwys yr eglwys gadeiriol, a sel, dogfennau, a chofnodion y cabidwl. Bu f. 15 Hydref 1590 a chladdwyd ef yn eglwys Mathern , ond nid oes yno gofadail iddo.

Llyfryddiaeth:

  • Bradney , A History of Monmouthshire ;
  • Browne Willis , A survey of the cathedral church of St. David's, and the edifices belonging to it, as they stood in the year 1715. To which is added, some memoirs relating thereto and the country adjacent, from a ms wrote about the latter end of Queen Elizabeth's reign. Together, with an account of the arch-bishops, bishops, precentors, chancellors, treasurers, and arch-deacons of the see of St. David's , 1717 ;
  • Lawrence Thomas , The Reformation in the Old Diocese of Llandaff , 1930 .

Awdur:

Yr Archddiacon Lawrence Thomas, D.D., (1889-1960), Aberafan