Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



BLEGYWRYD ( fl. c. 945 ), awdurdod ar hen gyfreithiau Cymru . Tystia amryw o'r MSS. hynaf o'r cyfreithiau i bwysigrwydd Blegywryd yng ngwaith y cyngor y parodd Hywel Dda ei gynnull yn y Tŷ-gwyn-ar-Daf yn Nyfed , c. 945 . Sonnir am ddewis 13 o ddoethion o blith y cynulliad mawr i drefnu a golygu'r cyfreithiau , a chan mai Blegywryd yw'r unig un ohonynt a grybwyllir wrth ei enw, tebyg mai ef oedd bennaf. Gelwir ef yn ‘ athro ,’ ‘yr un ysgolhaig doethaf,’ ‘clericum doctissimum,’ a hefyd ‘Howeli turbe legis doctor’ (‘ Athro cyfraith i deulu Hywel ’). Nid hawdd, felly, yw penderfynu a ydoedd yn offeiriad ai peidio. Tybiwyd, fodd bynnag, mai ato ef (a'i frawd) y cyfeiria ‘ Llyfr Llandaf ’ wrth enwi ‘famosissimus ille uir bledcuirit filius enniaun’ ( Blegywryd a Rhydderch feibion Einiawn ). Os cywir hynny, dyma dystiolaeth mai lleygwr ydoedd ef, mai Einiawn oedd enw'i dad, a'i fod yn byw yng Ngwent yn 955 .

Beth bynnag oedd safle a swydd Blegywryd , mae lle i gredu mai i'w athrylith ef y dylid priodoli rhan helaeth o fawredd y gyfundrefn odidog honno a adwaenir wrth yr enw ‘ Cyfreithiau Hywel Dda .’

Cysylltir ei enw'n fwyaf arbennig ag un ‘dull’ ar y cyfreithiau, sef ‘ Dull Dyfed ’ neu ‘ Lyfr Blegywryd .’ Eithr bernir hefyd fod y ‘dull’ hwn yn perthyn yn nes na'r ‘dulliau’ eraill i'r trefniant gwreiddiol a wnaed yn oes Hywel Dda .

Llyfryddiaeth:

  • A History of Wales ., 340-1.

Awdur:

Yr Athro Stephen Joseph Williams, D.Litt., (1896-1992), Abertawe