BLEDDYN ap CYNFYN (bu farw 1075), tywysog

Enw: Bleddyn ap Cynfyn
Dyddiad marw: 1075
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: tywysog
Maes gweithgaredd: Milwrol; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: John Edward Lloyd

Mab Cynfyn ap Gwerstan (gwr na wyddys ddim arall amdano) ac Angharad, gweddw Llywelyn ap Seisyll (bu farw 1023), a mam yr enwog Gruffudd ap Llywelyn (bu farw 1063).

Rhoddir ach urddasol i Gwerstan gan awdurdodau diweddar, ond y mae naws gair yn deillio o'r Saesneg Werestan ar yr enw. A hwythau yn hanner-brodyr i Gruffudd, dilynodd Bleddyn a Rhiwallon ef, ond nid yn annibynnol bellach eithr yn talu gwrogaeth i Edward y Cyffeswr ac yn gynghreiriaid ag ef. Dilynasant ôl traed Gruffudd trwy ymgyfathrachu a Mercia a helpu gwyr Mercia yn eu hymdrech yn erbyn William y Concwerwr, gan gynorthwyo Edric Wyllt yn 1067 pryd yr anrheithiasant Swydd Henffordd cyn belled â'r afon Lugg, a hefyd Edwin a Morcar yn 1068.

Yn y flwyddyn 1070 bu raid iddynt gyfarfod â bygythiad yn nes adref; heriwyd eu gallu gan ddau o feibion Gruffydd ym mrwydr Mechain, pryd yr enillodd Bleddyn, yr unig un ohonynt na chollodd ei fywyd. Bygythid ef yn awr gan y Normaniaid a oedd yn graddol ennill eu ffordd i Ogledd Cymru; yn 1073 medrodd Robert o Ruddlan ymsefydlu ar lannau'r afon Clwyd ac ychydig yn ddiweddarach ddod yn ddisymwth ac yn ddirgel ar warthaf Bleddyn a pheri i'r arweinydd Cymreig golli llawer o ysbail a bod bron a chael ei gymryd yn garcharor.

Daeth pen ar ei yrfa yn 1075 pan drefnodd Rhys ab Owain a gwyr mawr Ystrad Tywi iddo farw. Cwynid yn fawr yng nghanolbarth Cymru o achos y trychineb, ac felly pan lwyddodd ei gefnder Trahaearn ap Caradog i drechu Rhys ym mrwydr Gwdig yn 1078 a'i anfon ar ffo yn ffrwst credid bod dial wedi cael ei wneuthur mewn modd arbennig.

Rhoddir clod uchel i Fleddyn yn y cronicl a gedwid y pryd hyn yn Llanbadarn. Yr oedd rhinweddau'r tywysog delfrydol ynddo - tiriondeb tuag at elyn, caredigrwydd, hynawsedd, haelfrydedd tuag at y tlawd a'r diamddiffyn, a pharch i hawliau'r Eglwys. Gellir credu llawer o'r canmol hwn wrth gofio ei fod yn un o'r ychydig dywysogion a wnaeth ddiwygio cyfraith Hywel Dda. Ymhlith y cenedlaethau dilynol fe'i cofid ef fwyaf fel cyndad holl dywysogion diweddarach Powys o achos i'w feibion ymhen ychydig amser wedi iddo farw lwyddo i'w sefydlu eu hunain yn rheolwyr ar yr holl dalaith honno.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.