BLACKWELL
,
JOHN
(‘
Alun
’;
1797
-
1840
),
offeiriad a bardd
,
mab
Peter
a
Mary
Blackwell
,
Ponterwyl
,
yr Wyddgrug
. Ni chafodd ddim addysg ffurfiol yn blentyn, ac yn 11 oed prentisiwyd ef yn
grydd
gyda
William
Kirkham
, gŵr a
ymddiddorai mewn barddoniaeth
. Darllenodd lawer yn
Gymraeg
a
Saesneg
, a dechreuodd ddilyn
cymdeithasau Cymreigyddion
a
chystadlu mewn eisteddfodau
. Enillodd mewn eisteddfod yn yr
Wyddgrug
yn
1823
am awdl ar ‘
Maes Garmon
,’ ac yn
Rhuthyn
yr un flwyddyn ar awdl ar ‘
Genedigaeth Iorwerth II
.’ Enillodd hefyd ar draethodau, a thua'r un adeg ysgrifennodd rai llythyrau i'r
Gwyliedydd
. Dug hyn ef i sylw boneddigion ac
offeiriaid
, a chodwyd arian i dalu am addysg iddo. Yn
Ionawr 1824
aeth i
Aberriw
at
Thomas
Richards
[q.v.]
i'w baratoi at fyned i brifysgol, ac ym mis Rhagfyr yr un flwyddyn aeth i
Goleg Iesu
Rhydychen
; graddiodd yn
1828
. Yn ystod ei gyfnod yn
Rhydychen
daliodd i gystadlu rhywfaint — gwobrwywyd ei farwnad i'r
esgob
Heber
yn
eisteddfod Dinbych
yn
1828
, a darllenodd bopeth y medrai gael gafael arno yn
llyfrgell Bodley
a llyfrgell ei goleg ar hanes
Cymru
a'i llenyddiaeth. Yn
1829
urddwyd ef yn
gurad
Treffynnon
, ac yn
1833
fe'i penodwyd yn
rheithor
Maenordeifi
. Bu'n
olygydd
Y Cylchgrawn
, a gyhoeddid o dan nawdd y
Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristionogol
, am y flwyddyn a hanner y bu'r cyhoeddiad hwnnw byw,
1834-1835
. Yn
1839
priododd
Matilda
Dear
,
Pistyll
, ger
Treffynnon
. Bu f.
19 Mai 1840
, ac y mae tabled marmor er cof amdano ar fur eglwys
Maenordeifi
.
Ei weithiau mwyaf arbennig fel bardd yw ei gerddi rhydd, ‘
Rhywun
,’ ‘
Cerdd Hela
,’ ‘
Cathl i'r Eos
,’ ‘
Cân Gwraig y Pysgotwr
,’ ac ‘
Abaty Tintern
’ (cyfaddasiad o gân
Saesneg
, oll ond y pedair llinell olaf). Yn y rhain gwelir blaenffrwyth y canu telynegol a gynhyrchwyd gan y mudiad rhamantaidd.
Llyfryddiaeth:
-
Ceinion Alun
, 1851
,
1851
.
Awdur:
Y Prifathro / Syr Thomas Parry, D.Litt., (1904-85), Bangor /
Aberystwyth