BLACKWELL, HENRY (1851 - 1928), llyfr-rwymwr, llyfr-werthwr, llyfryddwr, a bywgraffyddwr

Enw: Henry Blackwell
Dyddiad geni: 1851
Dyddiad marw: 1928
Priod: Jennie H. Blackwell (née Davies)
Rhiant: Arabella Blackwell (née Jones)
Rhiant: Richard Blackwell
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llyfr-rwymwr, llyfr-werthwr, llyfryddwr, a bywgraffyddwr
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Argraffu a Chyhoeddi; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: William Llewelyn Davies

Ganwyd 2 Awst 1851, mab Richard Blackwell, Northop, ac Arabella (Jones), Rhosesmor, Sir y Fflint. Ceir enw Richard Blackwell yn rhwymo llyfrau yn 10 Chester Street, Lerpwl, a bernir mai yr un ydoedd a thad Henry Blackwell, a oedd yntau, yn 1873, yn dilyn yr unrhyw grefft yn 8 Haliburton Street, Toxteth Park, Lerpwl, a chanddo fusnes hefyd yn 25 South John Street. Bu Henry yn ysgol S. Paul, Lerpwl, am gyfnod.

Symudodd Henry Blackwell i Efrog Newydd ym mis Medi 1877; dywedir yn Y Wasg (Pittsburg), 21 Mai 1886, ei fod yn arolygu busnes rhwymo llyfrau yr adeg honno. Parhaodd i rwymo llyfrau a datblygu hefyd yn llyfrwerthwr ar raddfa eang, gan werthu llawer o lyfrau yn America ac ym Mhrydain. Casglai bob math o lyfrau, etc., ynglyn a Chymru ac â'r Cymry; yn ôl Y Drych, 22 Hydref 1891, yr oedd ganddo yr adeg honno dros ddwy fil o gyfrolau yn yr iaith Saesneg yn ymwneud a Chymru. (Y mae amryw o'r rhain bellach yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.) Cyhoeddodd gatalogau o lyfrau a oedd ganddo ar werth amryw weithiau rhwng 1886 a 1908.

Ysgrifennodd lawer i newyddiaduron a chyfnodolion: i'r Oswestry Advertizer ('Catalogues of Welsh MSS.', Ionawr 1890; 'A collection of Welsh Travels,' Awst 1891); i'r Old Welsh Chips, 1888 ('Bibliography of local and county histories relating to Wales and Monmouth' a 'List of Bibles and Testaments in the Welsh Language published in the United States'); i Bye-Gones, Red Dragon, Y Drych, The Druid, The Cambrian (sef hwnnw a gyhoeddid yn Cincinnati, Ohio), ac i'r Old Brecknock Chips, 1886 ('Brecknockshire authors and books printed in Brecknockshire'). Arfaethai yn 1886 a thrachefn yn 1889 ailgyhoeddi A History of Wales (London, 1869) gan Jane Williams. Yn Ionawr 1914 dechreuodd gyhoeddi Cambrian Gleanings: a monthly Magazine on Welsh Matters for the Welsh People the World over, edited and published by Henry Blackwell, University Place, and Tenth Street, gan gyhoeddi yn rhifyn Mai ' Printers of books in Welsh in the United States.'

Eithr erys y rhan fwyaf o'i waith bywgraffyddol heb ei gyhoeddi. Y mae y llawysgrifau hyn yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru: (a) 'A Dictionary of Welsh Biography' (NLW MSS 9251-9277A ); (b) 'Cambrian National Bibliography' (NLW MSS 4565D , NLW MS 4566D , NLW MS 4567D , NLW MS 4568D , NLW MS 4569D , NLW MS 4570D ); (c) 'A Bibliography of Welsh Bibliography' (NLW MS 6362A ); (ch) 'Rhestr o Ffugenwau Cymry' (NLW MS 6361D ) - hwn yn cynnwys ffugenwau dros bedair mil o feirdd ac awduron eraill.

Gweithiodd yn ddygn gydag eisteddfodau a chymdeithasau Cymreig yn yr Unol Daleithiau ac ym Mhrydain. Enillodd y wobr yn eisteddfod Efrog Newydd, 1886, am ei lyfryddiaeth, sef NLW MS 9278A yn awr, gwaith yr ychwanegodd ato o bryd i bryd ac a gyhoeddwyd gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn 1942 o dan y teitl A Bibliography of Welsh Americana.

Enw ei wraig oedd Jennie H. Davies. Cyhoeddwyd llun ohono yn Troy Daily Times, 21 Mawrth 1891. Bu farw 28 Ionawr 1928.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.